
Tra bo’r Pyreneau, sy’n gadwyn o fynyddoedd rhwng Sbaen a Ffrainc, yn ymddangos fydoedd i ffwrdd o Gymoedd De Cymru, mae’r ddwy dirwedd yma’n rhannu mwy na dim ond tir garw, hinsawdd arfordirol, a llawer o law. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer rhyfeddol o infertebratau diasgell o darddiad Pyreneaidd – neu debyg – wedi’u darganfod yn Ne Cymru. Yn eu plith mae rhywogaethau o nadroedd miltroed, gwlithod, ceirw’r gwellt a gwrachod lludw, yn cynnwys rhywogaethau megis nadroedd miltroed Bwystfil y Beddau (Cranogona dalensi) a’r ddwygynffonnog Gymreig (Cylindroiulus pyrenaicus), y Wlithen Bridd Silwraidd (Arion cf. fagophilus), a Gwlithen Dywyll y Pyreneau (Arion cf. iratii). Mae eu presenoldeb wedi arwain rhai arbenigwyr infertebratau lleol i roi’r llysenw ‘Y Pyreneau Cymreig’ ar y rhanbarth. Nawr, mae rhywogaeth arall eto wedi ei hychwanegu i’r rhestr ryfeddol hon: y Lled-wlithen Byreneaidd (Semilimax pyrenaicus).
Ym mis Ionawr 2025, roedd Swyddogion Cadwraeth Buglife, Liam Olds a Carys Romney, yn archwilio sborion glo wedi’u hadfer o amgylch hen waith glo Fforchwen a Glofa Cwmaman ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf – fe ddaethant ar draws nifer o led-wlithod anarferol oedd yn anghyfarwydd iddyn nhw.
Dangoswyd y lled-wlithod hyn i’r malacolegydd y Dr Ben Rowson o Amgueddfa Cymru, a gadarnhaodd mai Lled-wlithod Pyreneaidd oedd y rhain, rhywogaeth sy’n hysbys yn Iwerddon ers dros ganrif ond sydd erioed wedi ei chofnodi ym Mhrydain o’r blaen.
Ers y darganfyddiad cyntaf hwnnw, mae’r lled-wlithen wedi ei darganfod mewn nifer o leoliadau eraill yng Nghwm Cynon, yng Nghwm Llynfi ger Maesteg, a hyd yn oed cyn belled i’r gogledd a Cheunant Cynfal ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Sut gyrhaeddodd hi yma?
Mae tarddiad y poblogaethau hyn o led-wlithod yng Nghymru’n dal i fod yn ansicr, ond un ddamcaniaeth gredadwy yw eu bod wedi eu cyflwyno’n anfwriadol o gyfandir Ewrop. Mae un llwybr posibl yn ymwneud â mewnforiad hanesyddol mwyn haearn o Wlad y Basg, sy’n rhan o orllewin y Pyreneau.
Rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, fe wnaeth y DU – ac yn enwedig De Cymru – fewnforio tunelli o fwyn haearn o ogledd Sbaen. Tyfodd ardal Bilbao, oedd â chyfoeth o hematit ansawdd uchel, i fod yn un o’r prif gyflenwyr. Fe wnaeth gwneuthurwyr dur Prydain hyd yn oed fuddsoddi’n uniongyrchol yng ngweithfeydd mwyngloddio Sbaen er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o’r mwyn.
Ar y pryd, roedd De Cymru’n ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu haearn a dur, diolch i’r cronfeydd glo helaeth. Fodd bynnag, roedd y mwyn haearn lleol o ansawdd cymharol isel, felly byddai mwyn safon uwch o Sbaen yn cael ei gludo ar longau trwy borthladdoedd Cymru, fel Caerdydd a Chasnewydd. Gyda’r holl fasnachu morwrol yma, mae’n bosibl bod organeddau fel y Lled-wlithen Byreneaidd wedi eu cludo yma ar ddamwain gyda’r mwyn.
Er, efallai, na fyddwn fyth yn gwybod yn iawn sut gyrhaeddodd yr infertebratau Pyreneaidd hyn i Gymru, mae eu presenoldeb – wedi eu cuddio ymysg gwaddol ein gorffennol diwydiannol – yn stori hynod a rhyfeddol. Waeth os ydynt yn deithwyr cudd hanesyddol neu’n newydd-ddyfodiaid a anwybyddwyd, mae’r creaduriaid swil hyn yn ein hatgoffa o’r clymau dyfnion rhwng natur a hanes.
Nodyn ar rywogaethau estron a rhywogaethau estron goresgynnol

Mae dros 2,000 o blanhigion ac anifeiliaid wedi eu cyflwyno i Brydain o bob cwr o’r byd gan bobl. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddiniwed, ond mae oddeutu 10-15% yn ymledu ac yn troi’n rhywogaethau estron goresgynnol sy’n niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd, sy’n gostus i’r economi ac all hyd yn oed effeithio ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw.
Er na fyddwn, efallai, fyth yn gwybod sut y teithiodd y Lled-wlithen Byreneaidd i Gymru, mae’n ein hatgoffa’n glir bod rhaid gwella camau bioddiogelwch er mwyn gwarchod rhywogaethau brodorol ac atal y perygl o weld rhywogaethau goresgynnol yn ymledu. I ddysgu mwy am waith Buglife ar INNS, ewch i’n tudalennau ymgyrchu.
Darllenwch fwy am ddarganfyddiad y Lled-wlithen Byreneaidd ym Mhrydain:
https://www.researchgate.net/publication/391816020_First_records_of_Semilimax_pyrenaicus_Stylommatophora_Vitrinidae_in_Britain
Credyd Prif Ddelwedd: Lled-wlithen Byreneaidd (Semilimax pyrenaicus) © Liam Olds