Y chwilen gyntaf o’i bath yng Nghymru

Monday 23rd February 2015

Credwyd unwaith fod y creadur yma wedi hen ddiflannu o Wledydd Prydain. Gwyddys yn awr fod criw ohonynt wedi bod yn byw yn dawel yng coedwigoedd Cymru

Mae chwilen y llawr Carabus intricatus, yn greadur mor brin fel yr oedden ni’n credu am gyfnod ei fod wedi diflannu o Wledydd Prydain, hyd nes i rai ohonyn nhw ddod i’r fei yn Dartmoor yn 1994. Bellach mae poblogaeth ohonyn nhw wedi cael eu cadarnhau yng Nghoed Maesmelin, yn Sgiwen ger Castell-nedd, coedlan sydd yng ngofal Coed Cadw (Woodland Trust).

Anifail trawiadol yw’r chwilen Carabus intricatus, chwilen fawr gyda sglein metelaidd glas porffor. Hon yw chwilen ddaear fwyaf Gwledydd Prydain ac yn gallu tyfu i 28mm o hyd, bron modfedd a hanner. Mae'n hoffi coetiroedd hynafol llaith derw neu ffawydd, lle mae'n gwledda ar wlithod. Ar wahân i Goed Maesmelin, mae’n byw mewn dim ond dyrnaid o safleoedd eraill yng Ngwledydd Prydain, i gyd yn Nyfnaint a Chernyw, hyd y gwyddwn ni.

Fe gafodd y gwaith o chwilio am y pryfed prin a swil yma ei sbarduno ym mis Ebrill 2012, pan gysylltodd un o drigolion Sgiwen Lee Beynon â’r elusen Buglife, gan ddweud ei fod yn credu iddo gael hyd i’r chwilen  Carabus intricatus yn ei garej! Cafwyd trafodaethau, ac yn dilyn rhai arolygon  cychwynnol gan Buglife mewn gerllaw Coed Maesmelin, cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ariannu gwaith chwilio am y creadur. Ym mis Ionawr eleni gafodd poblogaeth o’r chwilen ei chadarnhau yn y goedwig hon gan entomolegwyr John Walters a Dave Boyce. Mae'n ymddangos fod y chwilen y cafwyd hyd iddi yn y garej wedi cael ei golchi i lawr y bryn gan law trwm, ac yn rhyfedd iawn mae Lee Beynon wedi dod o hyd 6 arall yn ei garej a’i ardd ers hynny.

Dywed Andrew Whitehouse Rheolwr Buglife yng Nghymru: "Mae'r chwilen Carabus intricatus yn greadur anhygoel i edrych arni! Mae cael hyd i boblogaeth yng Nghoed Maesmelin yn ychwanegiad sylweddol at gyfoeth byd natur Cymru. Mae'n rhyfeddol bod y chwilen hon wedi bod yn byw yma cyhyd heb gael ei ddarganfod. Mae ychydig o ddarnau o goetir hynafol ar ôl yn ardal Sgiwen, ond mae Coed Maesmelin yn un o ychydig o’r rhain sydd heb ei hailblannu â choed anfrodorol. Petai hyn wedi digwydd, gallai'r boblogaeth leol wedi diflannu, gan fod yr anifail yma angen cynefin o goed hynafol gyda thwf mwsogl trwchus."

Mae Chris Matts, sy'n rheoli Coed Maesmelin gyfer y Coed Cadw yn ychwanegu: "Mae coetir hynafol, sydd wedi goroesi dros y canrifoedd, yn aml ers yr Oes Iâ diwethaf, yn gynefin prin a hynod o werthfawr. Mae’r chwilen anhygoel hon yn enghraifft o'r hyn sy’n ei wneud yn arbennig. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod y coedwigoedd hyn yn cael eu diogelu a, lle bo angen, eu hadfer yn raddol. Os bydd y gorchudd canopi o goetir hynafol yn diflannu’n sydyn, mae'r cynefin arbennig iawn sydd ei angen ar y chwilen yn cael ei golli. Mae'n bron ar hap nad yw Maesmelin wedi cael ei blannu â choed conwydd neu ei dorri a'i glirio yn y gorffennol."

Dywed Adrian Fowles, Uwch Ecolegydd Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae coetiroedd hynafol yn gynefin pwysig ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau yma yng Nghymru, fel y chwilen hon Carabus intricatus. Rydym yn ariannu’r math yma o waith i wella’n dealltwriaeth ni o’r rhywogaethau prinnaf a sut y gallwn ni eu gwarchod nhw orau, ynghyd â’r cynefinoedd lle maen nhw’n byw.”