Rhoi Pryfed Cymru ar y Map – y cyntaf yn y byd!

Wednesday 6th December 2023

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd gyda map o’i ardaloedd pwysicaf ar gyfer pryfed ac infertebratau eraill – ffynhonnell wybodaeth hanfodol er mwyn helpu i arwain adferiad natur yng Nghymru. Mae Buglife – Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Infertebratau yn lansio adroddiad ‘Ardaloedd Infertebratau Pwysig: Rhoi Pryfed ar y Map yng Nghymru’ yn y Senedd heddiw. Mae’r rhwydwaith o 17 o Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) wedi ei ddynodi gan yr elusen drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr a gan ddefnyddio miliynau o gofnodion a gasglwyd gan naturiaethwyr.

Mae Cymru’n gartref i rywogaethau eiconig ac sydd dan fygythiad sydd ddim i’w canfod yn unman arall ym Mhrydain, fel Saerwenynen y Clogwyn (Osmia xanthomelana) sydd bellach ond i’w chanfod mewn dau safle bach ar ben clogwyni yng Nghymru, a’r pryf cerrig prin (Isogenus nebecula) sydd Mewn Perygl Difrifol, sydd ond i’w gael yn Afon Dyfrdwy ac yr ofnwyd ei fod wedi diflannu am byth.

Cymerodd yr AIP, sy’n gartref i boblogaethau o infertebratau o bwys cenedlaethol neu ryngwladol a’u cynefinoedd, bron i bum mlynedd i’w mapio. Maent yn cwmpasu 1,344km2 o Gymru. Er bod hyn yn ddim ond 6.5% o’r wlad, maent yn gartref i dros 10,800 o rywogaethau o infertebratau, yn cynnwys 7 o rywogaethau endemig Prydain – rhai sydd ddim i’w cael yn unman arall yn y byd. Mae’r AIP yn gartref hefyd i rywogaethau sydd dan fygythiad, yn cynnwys y chwilen ddaear Carabus intricatus hardd, y Falwen Ludiog (Myxas glutinosa) sef malwen brinnaf Prydain, a Chorryn Rafftio’r Ffen (Dolomedes plantarius) – ein corryn mwyaf.

Dywedodd Clare Dinham, Rheolwr Buglife Cymru, “Mae Ardaloedd Infertebratau Cymru, o Ben Llŷn i Arfordir De Cymru, yn gartref i rai o’n rhywogaethau mwyaf hynod. Ond mae llawer ohonynt dan fygythiad. Ein gobaith yw y bydd y map AIP newydd yn helpu pobl i ddysgu am a dathlu eu bywyd gwyllt lleol. A deall hefyd yr hyn allan nhw ei wneud i helpu adferiad natur.”

Meddai Jamie Robins, Rheolwr Rhaglenni, “Er mwyn sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein poblogaethau infertebratau a helpu natur i ffynnu, mae’n hanfodol gwybod ble mae ein rhywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad yn byw. Rydym wedi cychwyn ar y gwaith trwy fapio AIP yng Nghymru, ond dim ond megis dechrau yw hyn. Rydym angen i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau gydnabod y rôl bwysig y mae infertebratau’n eu chwarae a defnyddio ein AIP i flaenoriaethu camau gweithredu cadwraeth cwbl angenrheidiol.”

Gellir archwilio’r map llawn o AIP ar wefan Buglife, gyda dogfennau proffil cwbl hygyrch ar gyfer pob un o’r 17 AIP sy’n egluro pam eu bod yn bwysig, y bygythiadau y maent yn eu hwynebu a’r hyn sydd angen ei wneud i alluogi eu trigolion arbennig i ffynnu.


Prif Gredyd Delwedd: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gregynog, AIP Sir Drefaldwyn © John Trefonen