Rhannwch y Newydd!

Tuesday 19th September 2023

Mae dwy ysgol gynradd yn Sandfields, Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn gweithio gyda Buglife Cymru a’r Artist Lleol Tom Maloney i greu llyfryn defnyddiol i gynyddu ymwybyddiaeth am sut y gall B-Lines helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn cacynod, glöynnod byw a phryfed peillio eraill.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r elusen cadwraeth infertebratau Buglife Cymru wedi bod yn trosglwyddo prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot, wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r Prosiect wedi gweithio’n agos gyda chymunedau, sefydliadau lleol, ac ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot i greu ac adfer 40 hectar o lwybrau cyfeillgar at beillwyr o’r enw B-Lines.

Mae prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot yn rhan o raglen B-Lines genedlaethol Buglife sy’n anelu i ailgysylltu ein tirwedd er mwyn galluogi peillwyr a bywyd gwyllt arall i symud yn rhwydd, a chefnogi adferiad natur.

Fel rhan o’r prosiect, mae’r artist lleol Tom Maloney wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws Castell-nedd Port Talbot i gynyddu ymwybyddiaeth am beillwyr a’u hanghenion. Mae dros 1,000 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithdai peillwyr rhyngweithiol ac mae dwy ysgol, sef Ysgol Rhosafan ac Ysgol Gynradd Sandfields wedi creu gwaith celf sydd wedi ei gynnwys yn ein cartwnau B-Lines a’n llyfr newydd: Awgrymiadau Anhygoel ar gyfer Peillwyr.

Mae’r llyfr hwn yn ganllaw i bobl ifanc am beillwyr a’u cynefinoedd, yn cynnwys ein deg uchaf o bethau rhwydd y gallwch eu gwneud i helpu peillwyr ar dir eich ysgol a’r tu hwnt.

Mae copïau o’r llyfr yn cael eu hanfon i bob Ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae hefyd yn cael ei ryddhau i’w lawrlwytho am ddim ar gyfer plant, ysgolion a rhieni yn Gymraeg a Saesneg.

Wrth sôn am y prosiect dywedodd y Swyddog Cadwraeth, Emily Shaw: “Rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn bach hwn yn ysbrydoli ysgolion a chymunedau lleol i barhau â’r gwaddol gwych sydd wedi’i greu ar gyfer peillwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gobeithio y mwynhewch ei ddarllen a’i rannu gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau ei greu – rhannwch y newydd!”.

Gan gyfeirio at y prosiect, dywedodd yr artist Tom Maloney: “Mae hwn yn llyfr bach hyfryd, gyda syniadau gwych ar sut y gall pob un ohonom chwarae ein rhan wrth warchod peillwyr ac mae mor bwysig oherwydd bod y pryfed bychan, hyfryd hyn yn gwneud cymaint i ni!

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ymwelwch â gweddalen prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot.