Glywoch chi’r diweddaraf am y B-Lines?

Tuesday 12th April 2022

Mae dwy ysgol gynradd yn Sandfields, Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn gweithio gyda Buglife Cymru ac artist lleol i greu animeiddiadau ysbrydoledig i gynyddu ymwybyddiaeth am sut y gall B-Lines helpu i wrthdroi’r dirywiad yn niferoedd ein gwenyn, glöynnod byw a phryfed peillio eraill.

Mae Buglife Cymru ar hyn o bryd yn trosglwyddo prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot (CPT), wedi ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, cymdeithasau tai, Prifysgol Abertawe, y Bumblebee Conservation Trust, Coed Cadw ac eraill i greu ac adfer 40 hectar o gynefin ar gyfer pryfed peillio yng Nghastell-nedd Port Talbot, fydd o fudd i bryfed peillio yn ogystal â’r bobl sy’n byw, gweithio ac sy’n ymweld â’r ardal. Mae prosiect B-Lines CPT yn rhan o raglen B-Lines genedlaethol Buglife sy’n anelu i ail-gysylltu ein tirwedd er mwyn galluogi pryfed peillio a phryfed blodau gwyllt eraill i symud yn rhwydd, a chynorthwyo gydag adferiad natur.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd yr artist Tom Maloney:

Mae wedi bod yn bleser pur ac yn fraint i gynnal y prosiectau ffilmiau byrion hyn gyda’r disgyblion a’r ysgolion. Mae cynnal a chreu cynefinoedd ar gyfer y pryfetach sy’n gwneud cymaint inni yn flaenoriaeth amlwg ar gyfer y dyfodol. Y bobl ifanc yma yw’r dyfodol hwnnw. Fe wnaeth pob un ohonyn nhw arddangos ymrwymiad a dealltwriaeth o’r materion Ecolegol cysylltiedig, er eu bod lawer tu hwnt i’w hoed. Crëwyd y ffilmiau yn ystod cyfnod y Pandemig a hynny’n bennaf trwy weithdai ar-lein gyda rhywfaint o sesiynau dysgu’r tu allan ar Draeth Aberafan. Roedd creadigrwydd a phleser y disgyblion i gyd wrth ddysgu yn wych!”

Crëwyd yr animeiddiad hwn mewn cydweithrediad â Dosbarth 5 Ysgol Gynradd Sandfields:

 

Wrth sôn am gymryd rhan yn y prosiect, dywedodd disgyblion Dosbarth 5 o Ysgol Gynradd Sandfields:

“Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn a sut i dynnu eu llun” – Casey

“Anhygoel – Roedd yn cŵl mynd lawr i’r traeth i dynnu lluniau pryfed a phan ddefnyddio’n ni ein lleisiau ein hunain yn y ffilm” – Evan

Dywedodd Hannah Llewellyn, athrawes o Ysgol Gynradd Sandfields, “Roedd gweithio ar y Prosiect B-Lines yn brofiad gwych i’r holl ddisgyblion. Fe roddwyd cyfle anhygoel iddyn nhw ddysgu am bwysigrwydd pryfed peillio a’r rôl allweddol sydd gan y pryfed hyn yn ein hecosystem. Yn ogystal, fe ddatblygodd y disgyblion ddealltwriaeth o sut y gallan nhw annog a hybu’r peillwyr hyn trwy’r gymuned.

Crëwyd yr animeiddiad hwn mewn cydweithrediad â Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan:

 

Wrth gyfeirio at y prosiect, dywedodd Donna Williams athrawes o Ysgol Gynradd Rhosafan, “Mae wedi bod yn brofiad gwych i’r plant. Maen nhw wedi mwynhau gweithio gyda Tom yn fawr iawn, yn enwedig y sesiwn ar y traeth. Maen nhw’n falch iawn o’r animeiddiad ac allwn ni ddim aros i’w rannu gyda gweddill yr ysgol”.

Wrth sôn am eu rhan yn y prosiect, dywedodd disgyblion Ysgol Gynradd Rhosafan:

Mae Tom wedi fy nysgu sut i dynnu llun.

Fe wnes i fwynhau tynnu llun yn y tywod.

Roeddwn i wrth fy modd yn gweld ein lluniau yn y ffilm.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect a sut i ymuno: B-Lines Castell-nedd Port Talbot