Mae prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot (CNPT), a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn anelu i fynd i’r afael â’r dirywiad yn ein pryfed peillio trwy greu rhwydwaith o B-Lines fydd yn cysylltu cynefinoedd llawn blodau gwyllt ledled Castell-nedd Port Talbot, o Jersey Marine i Bort Talbot ac o Faglan i Gastell-nedd.
Mae Buglife Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, cymdeithasau tai, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Coed Cadw ac eraill i adfer, cyfoethogi a chreu cynefinoedd ar gyfer peillwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot, fydd o fudd i beillwyr, yn ogystal â’r bobl sy’n byw a gweithio yma ac sy’n ymweld â’r ardal.
Bydd y prosiect yn gweithio hefyd gyda chymunedau trwy gefnogi cyfranogiad grwpiau, ysgolion a thrigolion lleol i greu yr ardaloedd blodau gwyllt hyn. Bydd cyfres o weithdai a digwyddiadau’n helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am bryfed peillio a rheoli lleiniau gwyrddion ar gyfer bywyd gwyllt a bydd digonedd o gyfleoedd gwirfoddoli i ymuno ynddynt. Yn ogystal, bydd dolydd trefol o flodau gwyllt lliwgar yn gwella ansawdd mannau gwyrdd i bobl eu mwynhau fydd, yn eu tro, yn gwella iechyd a lles pobl.