Adroddiad newydd yn amlygu dyfodol ansicr i wenyn gwyllt Cymru

Thursday 25th October 2018

Heddiw mae Buglife Cymru yn lansio Adroddiad Gwenyn dan Fygythiad Cymru, yr adroddiad cyntaf o’i fath i archwilio iechyd ein rhywogaethau gwenyn gwyllt sydd dan fwyaf o fygythiad. Yn anffodus, mae’r adroddiad wedi canfod bod saith o’n gwenyn wedi diflannu yng Nghymru, ac mae pump arall – fel y Wenynen durio fechan eddi hir (Andrena niveata) – ar fin diflannu’n llwyr. Mae’r mwyafrif o rywogaethau gwenyn gwyllt a aseswyd gan yr adroddiad wedi dioddef dirywiad sylweddol, yn cynnwys y Gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum) y mae ei phoblogaethau craidd bellach wedi eu cyfyngu i Dde Cymru, gan godi pryderon ynghylch rhagolygon y rhywogaethau hyn i’r dyfodol. 

Trwy archwilio data hanesyddol a chyfoes, canfu Buglife Cymru bod llawer o wenyn gwyllt yng Nghymru i’w cael mewn llai o leoliadau nac yn y gorffennol, a’u bod yn wynebu dyfodol ansicr. Canfuwyd hefyd bod dirywiad mewn gwenyn gwyllt yn amlwg ledled Cymru gyfan. Heddiw, mae Buglife Cymru yn galw am weithredu i adfer poblogaethau o wenyn gwyllt sy’n dirywio yng Nghymru.

Meddai Liam Olds, Buglife Cymru, “Tra bo’r dirywiad yn ein gwenyn gwyllt yn frawychus, mae dal gobaith ar gyfer y dyfodol. Gellir gwrthdroi’r dirywiadau hyn trwy adfer cynefinoedd llawn blodau colledig a chysylltu’r rheini sy’n dal i fodoli, gan alluogi gwenyn gwyllt i symud trwy ein tirwedd. Dyma’n union y mae ein menter B-Lines Cymru yn anelu i’w gyflawni. Trwy gyfuniad o weithredu cadwraethol gyda rhywogaethau a dargedir ac arddull mwy cyffredinol tuag at wella cyflwr ein cefn gwlad ar gyfer peillwyr, gallwn weithio i wrthdroi’r dirywiadau hyn ac atal rhywogaethau eraill rhag diflannu’n llwyr o Gymru”.

Mae pryfed peillio fel gwenyn, gwyfynod a phryfed hofran yn hanfodol ar gyfer iechyd ein cefn gwlad a’n hiechyd a’n ffyniant ninnau i’r dyfodol. Amcangyfrifir bod 85% o’r holl rywogaethau o flodau gwyllt a chnydau blodeuol yn dibynnu ar, neu’n cael eu cyfoethogi gan, beillio gan bryfed – felly, mae peillio effeithlon yn hanfodol ar gyfer maethiad dynoliaeth, diogelwch bwyd ac ecosystem weithredol, iach.

Fodd bynnag, mae llawer o’n pryfed peillio’n dirywio’n ddifrifol. Mae gwenyn gwyllt (gwenyn bwm a gwenyn unig) yn arddangos rhai o’r dirywiadau mwyaf difrifol o blith holl beillwyr y DU ac i rai, mae Cymru bellach yn cynnal poblogaethau hysbys olaf y DU. Mae Adroddiad Gwenyn dan Fygythiad Cymru, Buglife, yn ychwanegu at ein dealltwriaeth am iechyd poblogaethau peillwyr Cymru, ac mae wedi datgelu bod rhai o’n gwenyn mwyaf bregus ar eu ffordd i ddifodiant.