Tirweddau AIP

Prawle Point, De Dyfnaint © Andrew Whitehouse

 Ardaloedd Infertebratau Pwysig  Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio   Tirweddau AIP  AIP Rhywogaethau Unigol  Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin  Darparwyr data AIP   Llyfrgell Ddogfennau AIP 

Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau


 

Tirweddau AIP

Mae ambell AIP yn cwmpasu tirweddau eang, yn cynnal ystod amrywiol o gynefinoedd ac yn gartref i restrau sylweddol o infertebratau sy’n brin yn genedlaethol. Mae pob un o’r AIP hyn yn unigryw, gyda’i chasgliadau ei hun ond hefyd ei chyfres ei hun o fygythiadau a heriau.

Agorwch yr astudiaethau achos isod i archwilio rhai o’n AIP Tirwedd

Arfordir De Cymru

Mae AIP Arfordir De Cymru yn cwmpasu 251km sgwâr o Gastell-nedd yn y gorllewin i Gasnewydd yn y dwyrain ac mae’n gartref i 90 o rywogaethau cymwys AIP.

Twyni tywod ym Merthyr Mawr © allyhook (Flickr, CC)

Mwy o wybodaeth

Blue Ground Beetle (Carabus intricatus) © John Walters
Chwilen Ddaear (Carabus intricatus) © John Walters

Mae’r AIP arfordirol hon yn cynnwys amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd yn cynnwys systemau twyni tywod, glaswelltiroedd amrywiol, cynefinoedd tir llwyd llawn blodau, morfa heli a phrysgwydd ymysg llu o rai eraill. Mae’r dirwedd amrywiol hon yn golygu ei bod yn meddu ar boblogaethau o’r Fritheg Frown (Argynnis adippe), Chwilen Traethlin (Eurynebria complanata), Gele Feddyginiaethol (Hirudo medicinalis), Corryn Rafftio’r Ffen (Dolomedes plantarius) a’r Chwilen Ddaear (Carabus intricatus) i enwi ond rhai. Mae hyn i gyd o fewn un o ardaloedd mwyaf poblog Cymru, sydd â hanes o ddiwydiant trwm a gweithgarwch amaethyddol dwys.

Er bod llawer o’r morlin yn elwa o ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol, fel adran fwyaf gorllewinol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Gwastadeddau Gwent, Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cynffig a SoDdGA Merthyr Mawr, mae dros 80% o’r AIP cyfan yn dal heb ei warchod. Mae hyn yn cynnwys tir nas dynodwyd ger gwaith dur Port Talbot a llawer o dir sy’n amgylchynu Pen-y-bont ar Ogwr a grŵp SoDdGA Cefn Cribwr. Mae llawer o hwn ond wedi ei ddynodi fel Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol felly nid oes ganddynt warchodaeth statudol, neu’n waeth fyth, dir llwyd sydd mewn perygl cyson o gael ei golli i’w ddatblygu.

South Wales Coast IIA Map
Map AIP Arfordir De Cymru

 

Aber Dornoch

Mae AIP Aber Dornoch yn yr Alban wedi ei diogelu gan gyfres o ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys Ardal Warchodaeth Arbennig (SPA) Aber Dornoch a Loch Fleet ar draws llawer o’r arfordir.

Aber Dornoch, Yr Alban © Roy Lathwell (Flickr, CC)

Mwy o wybodaeth

Freshwater Pearl Mussel (Margaritifera margaritifera) © Sue Scott- SNH
Misglen Berlog yr Afon (Margaritifera margaritifera) © Sue Scott- SNH

Mae’n cynnal brithwaith cyfoethog o forfa heli, twyni tywod, llaciau twyni, glaswelltiroedd twyni a gwlypdiroedd a geir ar hyd arfordir dwyreiniol Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Dornoch a Morrich More a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Dornoch, a SoDdGA Loch Fleet ar yr arfordir dwyreiniol i’r gogledd o Embo. Mae’r gymhlethfa hon o safleoedd gwarchodedig yn gartref i Bryf Hadau Ffonseca (Botanophila fonsecai), sy’n endemig ac Mewn Perygl yn Fyd-eang, a chasgliad cenedlaethol pwysig sy’n cynnwys y gwyfyn Pigmi Rhosyn (Stigmella spinosissimae), y Daearwyfyn Black Isle (Caryocolum blandelloides) a Chwilen Gorniog y Tywod (Orthocerus clavicornis).

Gorwedd ACA / SoDdGA Mound Alderwoods wrth drwyn Loch Fleet ac mae’n cynnal y gelli fwyaf o goetir Gwern sy’n tyfu o amgylch moryd ym Mhrydain, gyda choetir gwlyb trwchus, ffen agored a lagwnau lled hallt a phoblogaethau o’r Britheg Berlog (Boloria euphrosyne). Mae hydoedd isaf ACA Afon Evelix yn cwblhau’r AIP, sy’n cynnal yr unig boblogaeth fechan afonol sydd ar ôl ar arfordir y dwyrain o Fisglen Berlog yr Afon (Margaritifera margaritifera), sydd mewn Perygl Difrifol yn y DU / Ewrop.

Er gwaethaf y diddordeb neilltuol yma, mae safleoedd allweddol yn AIP Aber Dornoch yn dal i fod dan fygythiad oherwydd datblygu’r arfordir yn ogystal â newid yn yr hinsawdd.

Dornoch Firth IIA Map
Map AIP Aber Dornoch

Arfordir De Dyfnaint

Mae AIP Arfordir De Dyfnaint yn gartref i rywogaethau a chynefinoedd gwirioneddol arbennig.

Prawle Point, De Dyfnaint © Hayley Herridge

Mwy o wybodaeth

Six-banded Nomad Bee (Nomada sexfasciata) © Steven Falk
Gwenynen Grwydrol Chwe Rhesog (Nomada sexfasciata) © Steven Falk

Mae’r rhwydwaith o glogwyni arfordirol craig galed a meddal, llethrau, a glaswelltiroedd pen clogwyn yn cynnal casgliad o infertebratau o bwys cenedlaethol, sy’n bennaf o fewn safleoedd arfordirol gwarchodedig o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Bolt Head i Bolt Tail i SoDdGA Hallsands-Beesands. Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnal y Wenynen Grwydrol Chwe Rhesog (Nomada sexfasciata) – gwenynen brinnaf Prydain sydd bellach ond i’w chanfod ar Prawle Point, Chwilen Olew y Canoldir (Meloe mediterraneus), a Phryf Llofrudd Coesgoch Dyfnaint (Neomochtherus pallipes), sydd Mewn Perygl Difrifol

Mae’r AIP amrywiol hon yn cynnwys brithwaith cynefin arfordirol SoDdGA Slapton Ley, aberoedd a glaswelltiroedd a gweundir mewndirol pwysig fel SoDdGA Pebblebed Heaths Dwyrain Dyfnaint, sydd i gyd â’u casgliad eu hunain o infertebratau. Mae De Dyfnaint hefyd yn gartref i ddwy rywogaeth endemig. Mae’r dyffrynnoedd afon coediog yn hafan ar gyfer y Filtroed (Anthogona Britannica) sy’n endemig i Brydain – sydd ond i’w chanfod yn Ne Dyfnaint, ac mae rhwydwaith ogofâu, dyfrhaenau a ffynhonnau’r AIP yn cynnal Perdysen yr Ogofâu (Niphargus glenniei) sy’n endemig i Brydain.

Fodd bynnag, er gwaethaf maint y dirwedd ddynodedig, mae llawer o’r ardaloedd o ddiddordeb arbennig hyn yn dal i fod mewn perygl. Mae amddiffynfeydd clogwyni ac arfordirol wedi ymyrryd â phrosesau naturiol, dynamig tirwedd y clogwyni sydd, wedi ei gyplysu â cholli glaswelltir pen clogwyni’n llawn blodau, yn arwain at wasgu cynefinoedd addas. Mae defnydd tir gwahanol yn cystadlu gyda bywyd gwyllt am le, yn cynnwys amaethyddiaeth ddwys, a chyrchfannau twristiaid fel parciau carafanau a chyrsiau golff. Ar draws yr AIP, mae’r dirwedd wedi colli brithweithiau cynefin amrywiol y mae llawer o infertebratau eu hangen.

Mae Buglife yn rhan o brosiect partneriaeth Life on the Edge, gaiff ei arwain gan AHNE De Dyfnaint, sy’n anelu i wella hydoedd o’r morlin hwn o fewn yr AIP ar gyfer rhai o’i infertebratau arbennig, yn cynnwys y Wenynen Grwydrol Chwe Rhesog. Bydd y prosiect yn adfer glaswelltiroedd pen clogwyni llawn blodau gwyllt, yn rheoli brithweithiau glaswelltir-prysgwydd yn well ac yn gweithio gyda thirfeddianwyr i reoli cynefinoedd llawn blodau gwyllt yn well trwy adran ddeheuol yr AIP.

South Devon Coast IIA Map
Map AIP Arfordir De Dyfnaint