AIP a Chynllunio

Porth Neigwl © Liam Olds

 Ardaloedd Infertebratau Pwysig  Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio   Tirweddau AIP  AIP Rhywogaethau Unigol  Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin  Darparwyr data AIP   Llyfrgell Ddogfennau AIP 

Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau


 

Ardaloedd Infertebratau Pwysig

Nid yw AIP yn ddynodiad cyfreithiol ond gallant helpu i sicrhau bod safleoedd allweddol ar gyfer infertebratau’n cael eu cydnabod yn lleol ac yn genedlaethol, a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn llawn mewn penderfyniadau cynllunio.

Yn rhy aml o lawer, mae infertebratau un ai wedi’u hanwybyddu neu’n ystyriaeth hwyr mewn penderfyniadau cynllunio. Mae hyn wedi arwain at ddeilliannau gwael ar gyfer natur, ond bydd cyfres gyflawn o fapiau a phroffiliau AIP yn galluogi:

  • I safleoedd infertebratau pwysig gael eu hystyried ar y cyfle cyntaf yn ystod prosesau cynllunio, yn cynnwys mewn Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol.
  • Deilliannau cynllunio gwell ar gyfer infertebratau, trwy ddynodi’r angen am arolygon infertebratau i hysbysu penderfyniadau cynllunio’n gywir.
  • Awdurdodau Lleol i gydnabod yn well, safleoedd a chynefinoedd ar gyfer infertebratau sy’n brin a dan fygythiad yn genedlaethol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer Awdurdodau Lleol sydd heb arbenigedd ecolegol digonol i gefnogi eu timau cynllunio.
  • I’r safleoedd gorau un ar gyfer infertebratau gael eu heithrio o Gynlluniau Datblygu Lleol, gan sicrhau nad ydynt mewn perygl o ganlyniad i ddatblygu neu newidiadau amhriodol i ddefnydd tir.
  • Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol i rannu cyfres wedi ei blaenoriaethu’n genedlaethol o fapiau AIP, proffiliau ac adnoddau cysylltiedig i gefnogi eu hallbynnau chwiliadau am ddata.
  • Cynlluniau Seilwaith Gwyrdd a Glas i ystyried yn gywir sut y gallent gefnogi poblogaethau infertebratau trwy gysylltu, gwarchod ac adfer cynefinoedd.
  • Ymgynghorwyr ecolegol a gweithwyr proffesiynol i adnabod safleoedd, cynefinoedd a nodweddion infertebratau allweddol yn haws, er mwyn cynhyrchu adroddiadau amgylcheddol o ansawdd uwch.