Dethol a Mapio AIP

Dyffryn Gwy © David Evans (CC BY 2.0)

 Ardaloedd Infertebratau Pwysig  Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio   Tirweddau AIP  AIP Rhywogaethau Unigol  Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin  Darparwyr data AIP   Llyfrgell Ddogfennau AIP 

Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau


 

Dethol a Mapio AIP

Datblygwyd y criteria ar gyfer AIP gan grŵp o arbenigwyr infertebratau, data a chofnodi. Mapiwyd y rhwydwaith AIP cenedlaethol drwy ddefnyddio cyfoeth o ddata gan y cynlluniau cofnodi infertebratau cenedlaethol – dros 45 miliwn o gofnodion o 80 o gynlluniau. 

Ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, dynodwyd hectadau (sgwariau 10km x 10km) fel AIP am un ai gynnal un o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, sy’n golygu bod cyfrifoldeb arbennig i weithredu a’u gwarchod, neu am gynnal casgliad o bwys cenedlaethol o rywogaethau prin neu sydd dan fygythiad. Dynodwyd rhywogaethau a ystyriwyd ar gyfer mapio AIP gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

Dynodwyd y ‘rhywogaethau AIP cymwys’ o adolygiadau statws cyfoes neu ble nad yw’r rhain yn bodoli, adolygiad gan arbenigwyr ar grwpiau o rywogaethau. Yna, cafodd y hectadau hynny wnaeth gymhwyso eu grwpio’n ardaloedd AIP adnabyddadwy fel Cymoedd De Cymru, Canolbarth Argyll neu’r Ffeniau.

Bellach, mae’r AIP yn cael eu mapio ar raddfa fân, bob yn un, gan weithio gydag arbenigwyr lleol i adolygu cofnodion infertebratau lleol ar ôl 1990 a gwybodaeth am safleoedd er mwyn mapio’r ardaloedd craidd sy’n cynnal infertebratau sydd dan fygythiad.

I gyd-fynd â phob map graddfa fân, ceir proffil AIP sy’n egluro eu cynefinoedd a’u pwysigrwydd i infertebratau. Bydd y proffil hefyd yn enwi rhywogaethau a chasgliadau allweddol yn ogystal â’r bygythiadau lleol sy’n wynebu infertebratau’r AIP a pha gyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer gwella’r dirwedd i infertebratau.

Bydd pob un o’r mapiau graddfa fân a’r proffiliau AIP cyflawn yn cael eu lanlwytho i we-fap rhyngweithiol yr AIP wedi eu cwblhau.

Mae’n bwysig nodi y gall cynefinoedd y tu allan i’r AIP ddal fod yn gartref i infertebratau prin ac sydd dan fygythiad sydd angen eu cadw. Er gwaetha’r data sylweddol sydd wedi hysbysu’r prosiect hwn, bydd data newydd ac adolygiadau statws wastad yn ymddangos – a dyma pam fod methodoleg yr AIP wedi’i dylunio i gael ei hailadrodd dros y blynyddoedd i ddod, er mwyn ymateb i gyflwr newidiol ein poblogaethau o infertebratau.

Bydd gwybodaeth fanylach ar sut y mapiwyd y rhwydwaith AIP yn cael ei rhyddhau maes o law mewn Adroddiad Technegol arfaethedig.