Saving the small things that run the planet
Ardaloedd Infertebratau Pwysig Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio Tirweddau AIP AIP Rhywogaethau Unigol Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin Darparwyr data AIP Llyfrgell Ddogfennau AIP
Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau.
Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP
Mae mapiau’r AIP yn dangos y rhwydwaith o safleoedd sy’n cynnal eu rhywogaethau cymwys. Mae’r rhwydweithiau o safleoedd AIP yn seiliedig ar bresenoldeb cofnodion sydd wedi’u gwirio ar ôl 1990 o rywogaethau AIP cymwys a barn arbenigwyr lleol i olrhain yr ardaloedd o gynefin sy’n eu cynnal.
Nid yw mapiau’r AIP yn dangos cofnodion rhywogaethau unigol gan fod y data’n dod o ffynonellau niferus ac yn gofyn am wahanol ganiatâd. Mae’n bwysig hefyd pryd bynnag y gwneir penderfyniadau ar gyfer infertebratau, eu bod yn cael eu gwneud ar y data diweddaraf sydd ar gael, ble fo angen gyda chais am ddata i’r Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol Lleol berthnasol. Wrth gwrs, dim ond rhan o’r stori yw cofnodion unigol – mae angen inni wella rheolaeth yr holl gynefinoedd dynodedig o fewn y rhwydweithiau AIP er mwyn gweithredu’n wirioneddol ar gyfer infertebratau.
Er mwyn eu dehongli orau, dylid eu hystyried ochr yn ochr â’r proffiliau AIP sydd ar gael i bawb. Mae’r proffiliau hyn yn disgrifio’r cynefinoedd a’r nodweddion pwysig sy’n cynnal infertebratau ym mhob AIP. Maent hefyd yn dynodi rhywogaethau allweddol i’w hystyried a chasgliadau o infertebratau yn yr ardal honno sy’n gysylltiedig â nodweddion cynefin penodol. Gellir defnyddio’r wybodaeth yn y proffiliau ar fygythiadau a chyfleoedd i hysbysu rheolaeth a phenderfyniadau mewn cynefinoedd o fewn yr AIP sydd wedi’i mapio.
Mae rhai o’n AIP wedi’u mapio ond sydd heb broffil i’w cefnogi eto – byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda tra ein bod yn cyflawni’r dasg sylweddol hon a daliwch i alw’n ôl i’r wefan i weld pan fydd proffiliau newydd wedi’u hychwanegu.