Saving the small things that run the planet
Ardaloedd Infertebratau Pwysig Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio Tirweddau AIP AIP Rhywogaethau Unigol Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin Darparwyr data AIP Llyfrgell Ddogfennau AIP
Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau.
AIP Rhywogaethau Unigol
Mae rhai AIP wedi’u dynodi am ddim ond un rhywogaeth yn unig – un o’r pryderon cadwraeth pennaf, un ai’n genedlaethol neu’n rhyngwladol. Dyma ein rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, sy’n golygu bod cyfrifoldeb arbennig i weithredu i’w gwarchod.
Cliciwch ar yr astudiaethau achos isod i archwilio rhai o’n AIP rhywogaethau unigol.
Bryn Bredon a Choedydd Dixton
Mae’r AIP hon yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yn gymwys am ei phoblogaeth o’r Chwilen Glec Fioled sydd Mewn Perygl yn Fyd-eang
O Fryn Bredon © Mike Finn (Flickr, CC)
Mwy o wybodaeth

Mae’r chwilen hon, sydd dan fygythiad, i’w chanfod yn y DU ar ddim ond tri safle hysbys, yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) / Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Bryn Bredon, ac ACA / SoDdGA Coedydd Dixton.
Mae’r Chwilen Glec Fioled (Limoniscus violaceus) yn dirywio ar draws ei thiriogaeth Ewropeaidd ac mae eisoes wedi diflannu’n rhanbarthol mewn rhai gwledydd. Mae’n gysylltiedig â’r deilbridd mewn ceudodau pren pwdr wrth droed coed Ynn a Ffawydd hynod ond mae wedi’i cholli o nifer o safleoedd oherwydd y diffyg dilyniant o’r nodwedd gynefin prin hon. Mae’r oedolion hefyd angen llwyni blodeuol fel Drain Gwynion, sy’n aml ddim i’w cael ar safleoedd sydd â choed hynod addas. Dylai gwaith rheoli o fewn ac o amgylch yr AIP hon anelu i ddiogelu tirweddau i’r dyfodol er mwyn sicrhau ffynhonnell hir dymor o goed hynod, i ymestyn oes coed sy’n aeddfedu a choed hynod gyda chynefinoedd pren marw ac i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli gan ystyried llwyni blodeuol.

Dyffryn Ehen
Mae AIP Dyffryn Ehen yng Nghymbria yn gartref i boblogaeth fwyaf Lloegr o Fisglen Berlog yr Afon.
Yr Afon Ehen yn llifo dros y gored ar ddiwedd Dyfroedd Ennerdale © alh1 (Flickr, CC)
Mwy o wybodaeth

Mae Misglen Berlog yr Afon (Margaritifera margaritifera) yn bodoli yma mewn niferoedd eithriadol o uchel, gyda phoblogaeth o dros 100,000 o unigolion. Dyma hefyd un o’r ychydig boblogaethau yn Lloegr sy’n dangos arwyddion o recriwtio, gyda chofnodi misglod ifanc, sy’n ei gwneud yn flaenoriaeth cadwraeth genedlaethol.
Mae AIP Dyffryn Ehen yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) / Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Afon Ehen, a’r dyfroedd i lawr yr afon o’r ACA / SoDdGA i lawr i’w cheg, a’i tharddle yn Nyfroedd Ennerdale. Mae’r nodweddion hyn wedi’u clustogi i gynnwys y dirwedd ehangach gyfagos, yn cynnwys rhan o ACA / SoDdGA Rhosydd Uchel Ardal y Llynnoedd ar y llethrau o amgylch Dyfroedd Ennerdale. Mae hyn oherwydd bod y rhywogaeth yn hawdd iawn ei difrodi gan lygredd a newidiadau mewn ansawdd dŵr all gael ei achosi’n aml gan arferion rheoli tir gwael. Wedi ei gyfuno â’i gwendid oherwydd gwaith peirianyddol mewn afonydd, mae angen mabwysiadu dull crynhoad dŵr ehangach sy’n edrych y tu hwnt i sianel yr afon ar gyfer cadwraeth y rhywogaeth hon. Mae’n anghyfreithlon i darfu ar, anafu, casglu neu ladd Misglod Perlog yr Afon, fodd bynnag, mae casglu anghyfreithlon yn parhau.

Pen Llŷn
Yn ymwthio i Fôr Iwerddon o Ogledd Orllewin Cymru, mae Pen Llŷn yn gartref i un o wenyn prinnaf Prydain – Saerwenynen y Clogwyn.
Porth Neigwl © Liam Olds
Mwy o wybodaeth

Mae Saerwenynen y Clogwyn (Osmia xanthomelana), sydd mewn perygl, yn rhywogaeth arbenigol clogwyni arfordirol craig feddal, ble mae’n defnyddio’r mwd gwlyb o dryddiferiadau i adeiladu ei nyth yn y ddaear feddal. Mae’n porthi ar flodau llethrau’r clogwyni a glaswelltiroedd ar ben clogwyni. Yn y gorffennol roedd i’w chanfod o amgylch arfordir Cymru a Lloegr, gyda chadarnleoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru ac ar Ynys Wyth, mae bellach ond i’w chanfod ar ddau safle, y ddau ohonynt yn AIP Pen Llŷn.
Mae AIP Pen Llŷn yn cynnwys Porth Ceiriad a Porth Neigwl, y mae’r ddau ohonynt yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Sant Tudwal.
Mae cynlluniau amddiffyn a draenio clogwyni a’r arfordir wedi ymyrryd â phrosesau naturiol dynamig tirwedd y clogwyn. Oherwydd, wedi’i gyplysu â cholli blodau o ganlyniad i reolaeth ddwys glaswelltiroedd pen clogwyni ac erydiad arfordirol, mae’r cynefin ar gyfer Saerwenynen y Clogwyn yn gyfyngedig iawn. Mae newid hinsawdd yn achosi bygythiadau pellach, gyda’r potensial ar gyfer tynnu dŵr cynyddol yn effeithio ar y tryddiferiadau dŵr croyw hanfodol, tra gallai’r potensial am ddigwyddiadau eithafol fel stormydd gaeaf ac erydiad arfordirol a thirlithriadau cynyddol arwain at golled sydyn y wenynen leol iawn hon.
