Cefnogi Cadwraeth Infertebratau

Cynefin tir llwyd © Liam Olds

 Ardaloedd Infertebratau Pwysig  Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio   Tirweddau AIP  AIP Rhywogaethau Unigol  Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin  Darparwyr data AIP   Llyfrgell Ddogfennau AIP 

Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau


 

Cefnogi Cadwraeth Infertebratau

Gall cefnogi adferiad infertebratau fod yn gymhleth – ceir amrywiaeth aruthrol o rywogaethau, sydd i gyd â gwahanol fywydau, gwahanol anghenion ecolegol, a gwahanol wasgariadau.

Un o nodau’r rhaglen AIP yw gwneud hyn yn haws – i gymryd gwybodaeth dechnegol gymhleth a’i throsi a’i phuro i fformat sy’n hygyrch a defnyddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod ecolegwyr, cynllunwyr, awdurdodau lleol, cyrff statudol, sefydliadau cadwraeth, rheolwyr tiroedd a llunwyr penderfyniadau eraill yn gallu deall yn well bwysigrwydd safleoedd unigol a thirweddau cyfan ar gyfer infertebratau, a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u hysbysu’n well i gefnogi adferiad natur.

Bydd cyfres gyflawn o fapiau a phroffiliau AIP yn galluogi:

  • Ffocysu effeithlon ymdrechion cadwraeth infertebratau ar hyd a lled Prydain Fawr i ble sydd ei angen fwyaf. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth gyd-drefnus o gynefinoedd penodol ar gyfer rhywogaethau a chasgliadau ar draws safleoedd o fewn yr AIP.
  • Strategaethau ar raddfa tirwedd, fel rhwydweithiau adfer natur lleol, er mwyn corffori’n well anghenion rhywogaethau infertebratau fel nad yw cyfleoedd i gefnogi adfer rhywogaethau’n cael eu colli.
  • Adolygiad o effeithlonrwydd Rhwydweithiau Ardaloedd Gwarchodedig fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wrth gynrychioli’r safleoedd pwysicaf ar gyfer infertebratau. Safleoedd gwarchodedig statudol yw asgwrn cefn cadwraeth a gall y rhwydwaith AIP helpu i amlygu bylchau ble mae angen dynodi safleoedd pellach.
  • Dynodi Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn y dirwedd.
  • Dynodi bylchau rhwng cynefinoedd infertebratau o ansawdd uchel allai fod yn sail ar gyfer gwaith creu ac adfer cynefinoedd i glustogi cynefinoedd sy’n bodoli eisoes ac i wella cysylltedd.
  • Proffil mwy amlwg ar gyfer cymunedau infertebratau, yn cynnwys rhywogaethau a grwpiau llai adnabyddus.
  • Hybu nodweddion cynefin graddfa fechan, gaiff eu hanwybyddu’n aml, all fod yn bwysig ar gyfer infertebratau ond sy’n cael eu hesgeuluso’n aml e.e. tryddiferiadau neu grynofeydd dŵr dros dro.
  • Tirfeddianwyr a rheolwyr tir i gydnabod gwerth y tir o dan eu stiwardiaeth sy’n bwysig ar gyfer infertebratau, gan roi cyfle iddyn nhw ystyried infertebratau’n gwbl ymwybodol mewn penderfyniadau rheoli tir.

 

Er mwyn gwrthdroi’r dirywiadau hanesyddol mewn infertebratau, rydym angen tirweddau sydd wedi’u rheoli a’u gwarchod yn well ar gyfer infertebratau – gweler maniffesto No Insectinction Buglife. Mae hyn yn gofyn i’w hanghenion cael eu gwreiddio’n gywir mewn blaenoriaethau tirwedd a chadwraeth. Gall AIP helpu i ddarparu’r gronfa dystiolaeth.