Prosiect Peillwyr Casnewydd

Mae Prosiect Peillwyr Casnewydd yn brosiect newydd cyffrous fydd yn adfer a chreu cynefinoedd ar gyfer peillwyr a chyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu i ddathlu peillwyr ac annog cymunedau i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ardaloedd gwyrdd Casnewydd.

Wedi ei ariannu gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (CCDGT) ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd a grwpiau cymunedol lleol, bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o amrywiol weithgareddau yn cynnwys teithiau a sgyrsiau peillwyr, adnabod peillwyr, gweminarau hyfforddi a gweithdai celf, ffotograffiaeth a lles. Trwy wneud hyn byddwn yn cysylltu cymunedau Casnewydd gyda’u hardaloedd natur lleol, gan greu perthnasau mwy cyfeillgar gyda phryfetach, ac annog pobl i weithredu er mwyn atal dirywiad peillwyr. Byddwn hefyd yn ymgymryd â gwaith adfer cynefinoedd er mwyn creu rhwydweithiau ecolegol cryf yn cynnwys cynefinoedd newydd fel rhan o’n rhwydwaith B-lines a gwneud lle i infertebratau ffynnu. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nifer o safleoedd yn cynnwys yr “Heol at Natur” sydd wedi ei hadfer yn ddiweddar, Y  Twmps ger Allt-yr-yn, Canolfan Mileniwm Pillgwenlli a Gwarchodfa Natur Leol Sain Silian.

Pam fod angen y prosiect hwn? Ers yr ail ryfel byd mae’r DU wedi colli 97% o’i glaswelltir llawn blodau gwyllt. Mae angen inni adfer a chysylltu cynefinoedd ar frys, er mwyn atal a gwrthdroi’r dirywiad ym mhoblogaethau ein peillwyr. Gall ardaloedd trefol ddarparu llochesi allweddol ar gyfer peillwyr, ac mae Casnewydd yn cynnal cymunedau peillwyr amrywiol sy’n cynnwys rhywogaethau prin fel y Gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum), y Gardwenynen lwydfrown (Bombus humilis) a Gwenynen durio fechan y clafrllys (Andrena marginata). Fodd bynnag, mae peillwyr Cymru yn cael eu bygwth gan newid hinsawdd a datblygiadau sy’n lleihau cynefinoedd ac sy’n darnio poblogaethau. Mae peillwyr yn darparu gwasanaethau ecosystem allweddol. Mae eu hymddygiad a’u harddwch wedi ysbrydoli celfyddyd a llen gwerin ers cenedlaethau. Trwy gynnwys cymunedau mewn gwaith cadwraeth peillwyr, gallwn eu deall a’u monitro’n well er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Os hoffech ddysgu mwy neu os hoffech ymuno yn y prosiect cysylltwch â [email protected] Dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu trwy hoffi ein tudalen Facebook www.facebook.com/buglife/ neu Twitter @buzz_dont_tweet.

Help us to stop the extinction of invertebrate species

Become a member

From £3 per month, membership directly supports our vital conservation work. In return you receive member benefits and our bi-annual Buzz magazine.

Membership

Donate to support us

Our work would not be possible without your support. Bees and other invertebrates need help to reverse the catastrophic declines in their numbers. Please donate today and together we can restore vital habitats and rebuild strong populations of invertebrates in the UK.

Make a donation today

Engage with our work

Follow us on the social networks, or sign up to receive our email newsletter so we can keep you up-to-date with our work.