Infertebratau’r Tomenni Glo

’Does fawr ddim safleoedd sy’n fwy eiconig yng Nghymoedd De Cymru na thomenni glo y glofeydd. Mae’r amgylcheddau unigryw hyn yn hawdd iawn i’w anwybyddu a pheidio eu gwerthfawrogi ddigon am eu gwerth bioamrywiaeth, er gwaetha’r ffaith eu bod yn cynnal rhywogaethau a chynefinoedd o gryn bwysigrwydd cadwraethol yn lleol a chenedlaethol.

Mae prosiect Infertebratau’r Tomenni Glo yn anelu i gynyddu ein gwybodaeth am ddosbarthiad ac amrywiaeth yr infertebratau sydd i’w cael ar safleoedd tomenni glo yng Ngwent. Cynhelir arolygon infertebratau ar safleoedd dethol a’u defnyddio i hysbysu gwaith rheoli cynefinoedd er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn cael eu cadw, neu eu hadfer, i gyflwr ffafriol. Defnyddir digwyddiadau hyfforddi ac ymgysylltu cyhoeddus i gynyddu proffil cynefinoedd tomenni glo ac infertebratau ymysg cymunedau lleol, cyrff statudol a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Ariennir y prosiect hwn gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru trwy raglen waith ‘Resilient Greater Gwent’.

Pam fod y safleoedd tomenni glo yn bwysig ar gyfer infertebratau?

Mae eu priddoedd di-faeth a’u topograffeg gymhleth, yn cynnwys eu lleoliad, llethrau, cyfansoddiad eu hisbridd a’u pH amrywiol, yn annog brithweithiau o gynefinoedd cymhleth i ddatblygu’n agos i’w gilydd ar y safleoedd hyn. Gan fod nifer o infertebratau angen dau neu fwy o gynefinoedd i gwblhau eu cylchau bywyd, mae’r brithweithiau cynefin hyn yn hynod o werthfawr ar gyfer infertebratau.

Mae ymchwil diweddar ar safleoedd tomenni glo ar hyd a lled De Cymru wedi tanlinellu gwerth cadwraethol infertebratau pwysig y safleoedd hyn, gan inni ddysgu bod nifer o’r safleoedd yn cynnal rhywogaethau prin fel y Gardwenynen lwydfrown (Bombus humilis), y Gwibiwr llwyd (Erynnis tages), y Gweirlöyn llwyd (Hipparchia semele) a’r Fursen gynffonlas (Ischnura pumilio) brin. Mater arall o ddiddordeb yw’r cymunedau planhigion fasgwlaidd, bryoffytau, cennau a ffyngau ar y safleoedd hyn.

(c) Liam Olds

Help us to stop the extinction of invertebrate species

Become a member

Join a community of invertebrate champions and access exclusive member benefits from just £3 a month, all whilst supporting our vital conservation work.

Membership

Donate to support us

Every contribution helps us to save the small things that run the planet by restoring vital habitats and rebuilding strong invertebrate populations in the UK.

Make a donation today

Engage with our work

Stay up to date with our work and help spread the word by following us on our socials and signing up to our monthly BugBytes email newsletter.