Saving the small things that run the planet
Mae Cysylltiadau Sborion Glo yn brosiect partneriaeth Buglife sy’n anelu i ddeall yn well werth safleoedd sborion glo ar gyfer bioamrywiaeth ac i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd y safleoedd hyn a’r buddiannau y gallant eu cynnig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. (Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg)
Ffeithiau Cryno:
- Enw’r Prosiect: Cysylltiadau Sborion Glo
- Hyd y Prosiect: Ebrill 2024 – Rhagfyr 2025
- Lleoliad y Prosiect: Cymru – Ar draws tair sir Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Blaenau Gwent
- Rhywogaethau fydd yn elwa o’r Prosiect: Mae rhywogaethau allweddol y prosiect Cysylltiadau Sborion Glo yn cynnwys Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae), y wenynen durio Andrena tarsata, Gweirlöyn Llwyd(Hipparchia semele), Gwibiwr Llwyd(Erynnis tages), Britheg Berlog Fach (Boloria selene), Bwystfil y Beddau (Cranogona dalensi).
- Ariennir y prosiect gan: Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a The D’Oyly Carte Charitable Trust.
Beth yw Sborion Glo?
Mae sborion glo’n disgrifio tir sydd wedi ei ffurfio gan etifeddiaeth cloddio am lo. Pan oedd y glofeydd ar eu hanterth, byddai rwbel, llechi, pridd, ac weithiau hyd yn oed hen offer, yn cael eu claddu neu eu gadael ar yr wyneb ar y safleoedd hyn. Dros amser, mae’r cyfuniad unigryw hwn o ddeunyddiau wedi creu priddoedd anarferol gyda chyfansoddiad cemegol sy’n annhebyg i unman arall. Mae’r priddoedd hyn yn caniatáu brithwaith o gynefinoedd ar draws y sborion glo, sy’n cynnig ffynonellau bwyd a safleoedd bridio ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt mewn un lleoliad. Y cynefin na chaiff ei werthfawrogi fwyaf yw tir noethlwm, sy’n hanfodol ar gyfer rhywogaethau fel chwilod teigr a gwenyn turio sy’n ei ddefnyddio ar gyfer nythu, torheulo ac, yn achos chwilod teigr, ar gyfer hela.
Beth fydd y prosiect yn ei wneud?
Bydd Cysylltiadau Sborion Glo, fel y mae’r enw’n awgrymu, yn cysylltu cymunedau gyda’u safleoedd sborion glo lleol. Rydym yn gobeithio newid y safbwyntiau negyddol traddodiadol sydd gan bobl am y safleoedd hyn a hybu’r buddiannau y gall sborion glo eu cynnig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Bydd digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn annog pobl, yn enwedig y rheini sydd efallai ddim yn ymgysylltu â natur, i archwilio safleoedd sborion glo trwy ecoleg, daeareg, hanes a chelf lleol.
Rydym hefyd yn awyddus i ddeall yn well werth bioamrywiaeth safleoedd sborion glo a thrwy gydol y prosiect hwn, byddwn yn gweithio i ehangu ar ddata cynefinoedd a rhywogaethau safleoedd sborion glo sy’n bodoli eisoes. Gyda’r wybodaeth yma, gallwn wella amodau cynefinoedd trwy dystio i’r angen am warchodaeth gyfreithiol a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi adferiad a chadernid natur trwy rwydwaith safleoedd gwarchodedig ehangach Cymru.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae o leiaf 15 o rywogaethau newydd (y mae’r mwyafrif ohonynt yn infertebratau, ond sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o ffyngau) wedi eu darganfod ar safleoedd sborion glo yn Ne Cymru sy’n gwbl newydd i Gymru. Yn ogystal, mae tair o’r rhywogaethau hyn yn newydd i’r DU ac mae un rhywogaeth yn gwbl newydd i wyddoniaeth, sy’n gwneud gwarchod a deall y safleoedd hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol.
Mae rhai o’r rhywogaethau allweddol y bydd Cysylltiadau Sborion Glo’n canolbwyntio arnynt yn cynnwys:
- Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae)
- Y wenynen durio (Andrena tarsata)
- Gweirlöyn Llwyd(Hipparchia semele)
- Gwibiwr Llwyd (Erynnis tages)
- Britheg Berlog Fach (Boloria selene)
- Bwystfil y Beddau (Cranogona dalensi)
Diweddariadau am y Prosiect
O fis Mehefin 2024 tan fis Medi 2025, mae’r prosiect wedi ymgysylltu gyda dros 780 o bobl ar draws 41 o ddigwyddiadau.
Mae darganfod y Lled-wlithen Byreneaidd yn un o’n safleoedd Sborion Glo wedi bod yn gam arall yn y cyfeiriad cywir ar gyfer y prosiect. Mae canfyddiadau fel hyn yn cryfhau’r achos dros warchod y cynefinoedd gwerthfawr ac unigryw hyn, gan bwysleisio’n union gymaint o fioamrywiaeth y maent yn dal i’w gefnogi. Darllenwch fwy am y darganfyddiad yma.
Sut allwch chi ymuno â ni?
Gall cymunedau ymuno â phrosiect Cysylltiadau Sborion Glo Buglife Cymru trwy gyfres o gyfleoedd, yn cynnwys digwyddiadau, gwirfoddoli i reoli cynefinoedd, cofnodi rhywogaethau, a sesiynau eraill â ffocws gwyddoniaeth dinasyddion.
I ddysgu mwy am sut i ymuno â’n prosiect Cysylltiadau Sborion Glo, ewch i’n tudalen digwyddiadau neu cysylltwch â Carys Romney (Swyddog Cadwraeth) ar [email protected].
Ariennir y Prosiect Cysylltiadau Sborion Glo gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a The D’Oyly Carte Charitable Trust.