Saving the small things that run the planet
Mae’r pryfyn cerrig Isogenus nubecula yn bryfyn cerrig brodorol sydd Mewn Perygl Difrifol. Ar hyn o bryd, ni cheir cofnod ohono yn unman heblaw am rannau o Afon Dyfrdwy wrth iddi lifo trwy Sir Wrecsam, Cymru. (View this page in English)
Mae’n un o bum rhywogaeth o Perlodidae, teulu o bryfed y cerrig sy’n hysbys o’r DU, ac sydd i’w canfod yn nodweddiadol mewn ac o amgylch afonydd mawr caregog ar dir isel.
Mae gan bryfed y cerrig rôl allweddol ym mywyd afonydd. Fel pob creadur di-asgwrn-cefn, maen nhw’n hanfodol yng ngwe fwyd eu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt fel pysgod ac adar. Nid yw’r pryfyn cerrig Isogenus nubecula yn eithriad, gyda’i larfâu’n darparu bwyd ar gyfer Eogiaid, Siwin, Canghennau Glas a physgod eraill sy’n frodorol i Afon Dyfrdwy. Pan fyddant wedi tyfu’n llawn ac wedi dechrau hedfan, maen nhw’n ffynhonnell fwyd i adar sy’n nythu, fel Gwenoliaid y Glennydd, a chywion adar cân sydd newydd ddeor.
Mae’r pryfed hyn hefyd yn sensitif iawn i lygredd, sy’n golygu y gallant ddarparu gwybodaeth amhrisiadwy am iechyd afonydd. Yn anffodus, mae’n debygol mai llygredd sydd wrth wraidd dirywiad y rhywogaeth.
Pam ydyn ni’n cynnal yr arolwg hwn?
Y gred oedd bod y pryfyn cerrig Isogenus nubecula yn ddiflanedig ym Mhrydain hyd nes y daethpwyd o hyd i boblogaeth fechan ar Afon Dyfrdwy yng Nghymru yn 2017. Rydyn ni’n awyddus i ddeall a yw’r pryfyn hwn i’w gael mewn afonydd eraill, yn enwedig yng Nghymru ac o’i chwmpas lle mae wedi’i gofnodi ar hyn o bryd. Oherwydd na ddaw i’r golwg yn ystod rhan fwyaf ei gylch bywyd, gall fod yn anodd cofnodi pryf y cerrig. Maen nhw’n treulio llawer o’u bywyd cynnar o dan y dŵr, yn bwrw eu croen fel larfa. Fodd bynnag, fel pryfed llawn dwf maen nhw’n gadael y dŵr ac yn dueddol o hoffi arwynebau heulog a llystyfiant – dyna lle gallwch chi fod o gymorth!
Beth allwch chi ei wneud i helpu?
O fis Ebrill i fis Mehefin, rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd ein helpu ni i ddod o hyd i bryfed cerrig, tynnu lluniau ohonyn nhw a rhoi gwybod am unrhyw bryfed cerrig a welir ar hyd afonydd Cymru. Os ydych chi’n byw y tu allan i’r ardal hon ond yn meddwl eich bod wedi dod o hyd i bryf cerrig Isogenus nubecula, cofnodwch hyn trwy’r ffurflen isod hefyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Cadwraeth y Pryf Cerrig Isogenus nubecula, Sarah Hawkes, ar [email protected].
Mae Prosiect Pryf y Cerrig Isogenus nubecula yn bartneriaeth rhwng Buglife a Natur am Byth! Nod y prosiect yw cael gwell dealltwriaeth o statws presennol y Pryf Cerrig Isogenus nubecula yn Afon Dyfrdwy ac ennyn diddordeb y cyhoedd ym mhwysigrwydd y pryfyn hwn.