… blog gan Sarah Hawkes, Swyddog Cadwraeth y Pryfyn Cerrig Isogenus nubecula yn Buglife Cymru, rhan o Natur am Byth!, ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2026.
Glywoch chi erioed am Aerfen, Duwies afon Dyfrdwy a’i llednentydd lluosog yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a Swydd Gaer? Ar un adeg roedd hi’n bwysig ar y naw i gymunedau ar hyd glannau afon Dyfrdwy a’i llednentydd. Yn ôl y sôn cyfuniad yw ‘Aerfen’ o’r geiriau Celtaidd hynafol, agro (lladdfa) a tan-nu (ehangu) neu ten n do (torri neu drychu). Gyda’i gilydd, gellid efallai dweud bod hyn yn golygu rhywbeth fel ‘enwog am frwydro’.
Duwies ffyrnig yw Aerfen a oedd yn mynnu, yn ôl y chwedl, fod y trigolion yn aberthu tri pherson y flwyddyn yn gyfnewid am lwyddiant mewn brwydrau. Roedd llwyddiant neu fethiant yn ddibynnol ar yr afon yn erydu’r lan ddwyreiniol neu’r lan orllewinol – dyna’r gred. Fodd bynnag, mae chwedlau hefyd yn dweud bod Aerfen yn hael a thyner. Mae hyn yn briodol, efallai, ar gyfer afon Dyfrdwy – sy’n achosi llifogydd ar diroedd ffermio, gan adael priddoedd ffrwythlon ar ei hôl.
Roedd y Dduwies hon yn rhan fawr o hen arferion oes a fu. Roedd Aerfen, fel duwiau hynafol yn gyffredinol, yn rhan o’r gymuned – ond yn meddu ar gryfder goruwchddynol ac emosiynau gwyllt goruwchddynol. Roedd hi’n gallu peri niwed mawr a daioni mawr. Roedd deall, parchu a thrin Aerfen fel rhan bwysig o’r gymuned yn hanfodol os oeddech chi’n byw yn ei theyrnas hi. Boed yn ffermwr, yn fasnachwr, yn bentrefwr, yn arglwydd neu’n arglwyddes, neu’n ryfelwr enwog… os na fyddech chi’n parchu’r afonydd, a byd natur yn gyffredinol, roedd pethau’n argoeli’n wael!
Roedd afon Dyfrdwy yn enwog am nifer yr eogiaid oedd ynddi, sy’n awgrymu bioamrywiaeth gyfoethog. Rhaid bod y Pryfed Cadys a Gwybed Mai yn deor wedi bod yn olygfa ysblennydd. Gwahanol rywogaethau yn dod i’r amlwg yn dibynnu ar y gwahaniaethau yn afon Dyfrdwy ar wahanol gamau ar eith thaith i’r môr. Pysgod o bob math yn neidio i ddal pryd o fwyd ac adar yn nythu ac yn chwilio am dameidiau blasus i’w bwydo i’w cywion!
Roedd pysgota am fwyd yn hanfodol – a gwnaed ymdrechion i reoli pwy ddylai gael mynediad at yr eogiaid gan yr arglwyddi. Ceir nifer fawr o hen straeon teuluol am botswyr yn cael eu dal a’u rhyddhau, eu herlyn, neu hyd yn oed yn cael eu gwneud yn geidwaid neu’n giperiaid ar hyd afon Ceiriog, un o isafonydd afon Dyfrdwy lle mae eogiaid yn silio.
Mae plant sy’n byw ar ei glannau yn dal i dyfu i fyny gyda straeon am beryglon afon Dyfrdwy… a’i chyfoeth. Ar ddiwrnodau crasboeth ar ôl ysgol yn Llangollen, byddai fy mhlant a’u ffrindiau’n rhuthro i’r afon, yn lle’r bws, i nofio a chwarae yn ei dyfroedd (gan ffonio’n ddiweddarach i ofyn am lifft adref). Ond yn y gaeaf, pan mae’n llifo’n wyllt, nid oes neb yn amau ei grym!
Fodd bynnag, ers y chwyldro diwydiannol, rydyn ni wedi dechrau meddwl am afonydd fel ‘pethau’ – i fynd â gwastraff, i ddarparu dŵr ar gyfer popeth dan haul… rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae diwydiant, carthffosiaeth a newid hinsawdd bellach yn faich ar bob afon, bron.
Ond mae gobaith am newid yn sgil problemau amlwg a chryn ymgyrchu. Pysgotwyr oedd yn adnabod yr afon orau – ac mae’n siŵr bod hynny’n wir hyd heddiw. Maent yn aml yn dal i allu gweld yr afon, y dirwedd a’u hunain fel rhan o un gymuned gyfan.
Mae ffermwyr, drwy’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur, hefyd yn gwerthfawrogi rôl bioamrywiaeth ar raddfa dirwedd eang. Mae ‘personoli’ afon o fewn y dirwedd, yn gysylltiedig â’r gweddill ohonom, yn bwysig i ddeall ein rôl ni fel pobl a beth gallwn ni ei wneud i daclo rhai o broblemau afonydd heddiw.
Rwy’n hoffi meddwl am Aerfen fel modryb oedrannus, ychydig yn flin, sy’n gofalu am ei pherthnasau a’i chymuned – ond sy’n gwneud hynny yn ei ffordd ei hun. Gan arddangos haelioni ar un llaw a bod yn llym ar y llaw arall. Mynnu parch gan berthnasau, gan fod yn hael i’r rhai sy’n dangos parch iddi – ond yn cosbi’r rheini sy’n ei thramgwyddo!
Efallai, drwy ddod â theimlad teuluol i’n perthynas ag afonydd, gallwn weld yn gliriach y difrod ofnadwy a wnaed gan gymdeithas – a’n hannog i amddiffyn afonydd megis afon Dyfrdwy, fel rhan o’n teulu a’n cymuned. Nid fel pethau i’w defnyddio fel y mynnwn.
Y newyddion da yw bod Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cael gwared ar rwystrau i leoliadau silio gyda rhai llwyddiannau anhygoel. Ac wrth gwrs rydyn ni yn Buglife gyda Natur am Byth! yn datgelu mwy bob blwyddyn am y Pryfyn Cerrig Isogenus nubecula – un o’r creaduriaid prinnaf a mwyaf cyfrinachol yng Nghymru.
Ynglŷn â Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd
Cynhelir Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar 2 Chwefror bob blwyddyn, gan godi ymwybyddiaeth fyd-eang am bwysigrwydd gwlyptiroedd i bobl a’n planed. Mae gan bob blwyddyn thema wahanol – thema eleni yw “Gwlyptiroedd a gwybodaeth draddodiadol: Dathlu treftadaeth ddiwylliannol”, sy’n tynnu sylw at rôl fythol gwybodaeth draddodiadol wrth gynnal ecosystemau gwlyptiroedd a hunaniaeth ddiwylliannol.
I ddarganfod mwy am waith Sarah ar Afon Dyfrdwy fel rhan o brosiect y Pryfyn Cerrig Isogenus nubecula gan Natur am Byth! a sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i’n tudalen we bwrpasol