Dyddiaduron pryf y cerrig ~ blog rhan 2

Wednesday 9th July 2025

…ysgrifennwyd gan Buglife Cymru, Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Natur am Byth, Sarah Hawkes.

Ymunwch â Sarah, Swyddog Cadwraeth pryf y cerrig Isogenus nubecula Natur am Byth Buglife Cymru, wrth iddi adrodd ei thaith o ddarganfod yn ystod tymor arolygu eleni ar gyfer ei phrosiect; mae hi’n rhannu rhai o’r uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau a rhai darganfyddiadau newydd diddorol! (Rhan 2 o 2)


Mae anifail prinnaf Wrecsam, Isogenus nubecula, wedi dod allan o ddyfroedd yr afon am gyfnod byr o dair  i bedair wythnos fel pryf y cerrig llawndwf. Rydw i wedi bod yn olrhain y pryfed yn dod allan o’r dŵr; cyfrif exuvia (y croen sy’n cael ei adael ar ôl i bryf fwrw croen) ar bontydd, chwilio amdanynt ar hyd glannau afon Dyfrdwy yng Nghymru, a chadw cofnod byr. Ymunwch â mi wrth i mi barhau â’m taith.


Imogen, Chester Zoo © Sarah Hawkes

Dydd Sadwrn, 3 Mai 2025: Ar ôl dwy noson o recordio sain gyda fy ngrŵp bach o ddrymwyr, mae Isogenus nubecula wedi mynd yn ôl i’r afon ac mae eu curiadau wedi mynd i ffwrdd i’w dadansoddi.

Wrth eu trosglwyddo, roeddwn i’n gallu gwrando ar rythmau rhywogaeth arall o bryfed y cerrig – ddim uwch, ond yn llawer cyflymach nag Isogenus nubecula di-lol ac yn fwy swnllyd.   Rydw i’n gofyn i Tim fynd ati i lunio’i gân nesaf sy’n cynnwys pryfed.

Daeth Imogen a Katie o’r adran chwilod yn Sw Caer i’r afon am gwpl o ddiwrnodau a gyda’n gilydd fe ffilmion ni lawer o’r pryfed y cerrig yn paru, yn chwilio am laswellt ac yn setlo ar goed a chawsom rai delweddau o’r llu o wyau.  Rwy’n gobeithio cael lluniau gwell o’r olaf os gallwn ni fod yn ffodus gyda’r tywydd a dod o hyd i fwy o anifeiliaid yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Daeth Alan, Mel a Kaitlyn draw ddoe hefyd i helpu i chwilio afon Ceiriog, ond dwi heb gael lwc hyd yn hyn a dwi ddim wedi gallu cyrraedd y bont i weld a oes unrhyw exuvia ar y waliau – mae’r dŵr yn rhy ddwfn hyd yn oed i rydyddion!

Fe wnaethon ni ddod o hyd i chwilen olew fioled hyfryd, a phryf giachog tlws yn un o safleoedd afon Dyfrdwy.


Scarce Yellow Sally (Isogenus nubecula) male © Sarah Hawkes

Dydd Mawrth, 6 Mai 2025:  Ar ôl rhew yn gynnar y bore yma, aeth Imogen o Sw Caer a minnau i chwilio am bryf y cerrig Isogenus nubecula gyda’r nos ar y diwrnod oeraf ers oesoedd.  Roedd y rhagolygon yn iawn, ond ddim yn ysbrydoledig, felly cael a chael oedd hi a fedrwn gyfiawnhau gofyn am wirfoddolwyr i’n helpu, felly cymerais Eira y ci fel cydymaith rhag ofn nad oedd dim byd arall i edrych arno.

Mewn gwirionedd, fe wnaethon ni ddod o hyd i 24 pryf y cerrig Isogenus nubecula yn y coed, ac roedd chwech ohonynt yn barau paru!

Mae mor braf gallu eu gweld a’u gwylio.  O wybod nad oes bron dim yn hysbys am eu hymddygiad fel oedolion, gallwn ofyn y cwestiynau mwyaf naïf i ni’n hunain ac maen nhw yr un mor ddilys ag unrhyw gwestiwn arall.  Dyna’n wir beth yw pwrpas tymor arolwg eleni – edrych ac ystyried  pam, yn barod i fynd ar drywydd gyda chwestiynau wedi’u targedu’n well y flwyddyn nesaf.

Mae Isogenus nubecula yn bresennol mewn ychydig o leoedd lleol iawn o amgylch Bangor Is-coed i fyny ac i lawr yr afon. Rydw i’n meddwl bod annog pobl i ofalu am yr anifail bach hwn a bod yn falch ohono a’r afon wrth eu cartrefi yn beth da! Os yw pobl yn anfon lluniau ohono atom ni, mae hynny’n ein helpu ni i ddarganfod mwy hefyd!


Pale Watery male (Baetis fuscatus) © Sarah Hawkes

Dydd Mawrth, 13 Mai 2025: Mae diweddgan Isogenus nubecula ar ddod. Mae’r rhan fwyaf o wyau’n cael eu dodwy ac mae llai a llai ohonyn nhw bob tro rydw i’n ymweld.  Ddydd Gwener roedd hi’n hyfryd cael Justin Williams, naturiolwr lleol, draw i weld yr anifeiliaid hyn, sef yr anifeiliaid prinnaf yn Wrecsam.

Ar ôl chwilio am ychydig, fe lwyddon ni i ddod o hyd i rai o’r ychydig Isogenus nubecula olaf yn y coed a’r ysgall.

I lawr ar lan afon Dyfrdwy, gwybed Mai sydd bellach yn mynnu’n sylw. Mae Ephemera danica, y gwybedyn Mai cyffredin, yn dawnsio’n fertigol, i fyny ac i lawr ar lan yr afon.  Mae Baetis fuscatus yn setlo ar y llystyfiant.  Mae pryfed y wernen, chwilod clec, a llifbryfed i gyd yn ymddangos i gymryd eu lle wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.

Fydd hi ddim yn hir nawr cyn y gallwch chi weld Potamanthus luteus sydd newydd symud i’r gogledd i afon Dyfrdwy, yr holl ffordd o afon Wysg yn y de, am fod y tymheredd wedi cynhesu.


Admiring Scarce Yellow Sally in her temporary tupperware © Sarah Hawkes

Dydd Gwener, 23 Mai 2025:  Un ymweliad olaf, y tro hwn yng nghwmni tîm canolog Natur am Byth a ddaeth draw i brofi’r prosiect drostynt eu hunain a gweld sut rwy’n gweithio wrth arolygu ar hyd yr afon. Diwrnod heulog hardd arall oedd hi pan es i â nhw i weld y man lle rydyn ni’n cynnal yr arolygon yn yr afon ac yn casglu exuvia ym Mangor Is-coed.  Yna symudon ni i safle arall lle gwnaethon ni astudio’r oedolion. Roeddwn i wedi croesi fy mysedd y tu ôl i fy nghefn, bron yn siŵr na fyddai unrhyw Isogenus nubecula i’w gweld o hyd ar lan yr afon.

Drwy ffawd, daeth Josie o hyd i Isogenus nubecula gwrywaidd olaf o dan gangen.

Ddeuddydd yn ddiweddarach es i yn ôl; doedd dim arwydd Isogenus nubecula mwyach.


© Sarah Hawkes

Diweddglo, o ryw fath…

Dydd Llun, 2 Mehefin 2025: Heddiw yw’r diwrnod roeddwn i wedi’i neilltuo ar gyfer cychwyn ’digwyddiadau ymgysylltu’ o ddifrif, gan ddechrau gyda diwrnod allan i fyfyrwyr Celfyddydau Cain Prifysgol Wrecsam.

Fe gerddon ni ar hyd glannau’r afon, gan edrych ar infertebratau a’r afon, gan drafod eu syniadau ar gyfer gweithiau celf (a’u creadigaethau arbennig cyntaf); gan ddehongli eu syniadau, yn dilyn fy ymweliadau blaenorol.

Roedden ni’n teithio ar hyd yr afon mor bell â safle nythu gwenoliaid y glennydd, cyn rhoi cynnig ar gicsamplu yn yr afon pan ddywedodd Debbie, ‘beth yw hyn?

Atebais ‘Isogenus nubecula,’ yna daeth Tracy o hyd i un hefyd a chyn i ni sylweddoli roedd pedwar pryf cerrig yno (pump o bosibl ond efallai bod un wedi dod draw eilwaith!).

Mae’n amlwg nad oedd fy rhagfynegiad hyderus o ddiwedd y tymor, yn ôl ym mis Mai, yn agos at fod yn gywir: dim syndod efallai. Sawl gwaith ydw i wedi ateb cwestiynau gwirfoddolwyr gan ddweud ‘dydyn ni ddim yn gwybod yr atebion eto, ond dyna lle rydych chi’n gallu helpu?’

Felly, dyma ni, wedi cyrraedd mis Mehefin ac, er i mi orffen y sesiynau arolygu gwirfoddol ddydd Mawrth 20 Mai, mae gan Isogenus nubecula syniadau eraill ac mewn eiliad o serendipedd, roedd y myfyrwyr celf hyfryd yn hapus i gamu i’r bwlch!

Am ddiwrnod gwych i ni i gyd!  Ac yn goron ar y cyfan — nid bod angen hynny — fe ddaethon ni o hyd i larfae mawr gwybed Mai, Potamanthus, wrth wneud y cicsamplu (rhywogaeth darged arall ar gyfer y prosiect hwn sydd ar fin hedfan!) a oedd yn barod i ddod allan fel oedolion pan fyddan nhw’n bwrw’u croen nesaf.


Beth allwch chi ei wneud i helpu…?

Os yw dyddiadur bach Sarah wedi ennyn eich diddordeb ac yr hoffech gymryd rhan yn ein prosiect Isogenus nubecula, cysylltwch â ni.  Rydym yn arbennig o awyddus i gael cymorth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, pan fyddwn yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu i leoli ac adrodd am unrhyw bryfed cerrig sy’n cael eu gweld ar hyd afonydd yng Nghymru ac i dynnu lluniau ohonynt.  Ond mae’n debygol bod gweld y pryfed y tu allan i’r amseroedd hyn o ddiddordeb hefyd, yn enwedig o ystyried profiad Sarah gyda myfyrwyr Prifysgol Wrecsam eleni.

Os ydych chi’n byw y tu allan i ardal y prosiect ond yn meddwl eich bod chi wedi dod o hyd i Isogenus nubecula, cofnodwch hynny trwy ddefnyddio ein ffurflen we Chwiliwch am Isogenus nubecula hefyd.