
…ysgrifennwyd gan Buglife Cymru, Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Natur am Byth, Sarah Hawkes
Ymunwch â Sarah, Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Natur am Byth Buglife Cymru, wrth iddi adrodd ei thaith o ddarganfod yn ystod tymor arolygu eleni ar gyfer ei phrosiect; mae hi’n rhannu rhai o’r uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau a rhai darganfyddiadau newydd diddorol! (rhan 1 o 2)
Mae anifail prinnaf Wrecsam, Isogenus nubecula, wedi dod allan o ddyfroedd yr afon am gyfnod byr o dair i bedair wythnos fel pryf y cerrig llawndwf. Rydw i wedi bod yn olrhain y pryfed yn dod allan o’r dŵr; cyfrif exuvia (y croen sy’n cael ei adael ar ôl i bryf fwrw croen) ar bontydd, chwilio amdanynt ar hyd glannau afon Dyfrdwy yng Nghymru, a chadw cofnod byr o fy nhaith. Ymunwch â mi am hanner cyntaf yr antur.

Dydd Iau, 24 Ebrill 2025: “Rydw i’n amau a fydd gan bryfed y cerrig fyth yr un apêl ag ŵyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae tymor cofnodi Isogenus nubecula ar y gweill ac ar hyd afon Dyfrdwy rydyn ni’n dechrau gweld y pryfed yn eu llawn dwf (tua 2 cm o hyd, yn hir ac yn dywyll).
Maent yn brin iawn a dim ond ar hyd afonydd Dyfrdwy a Cheiriog yn Sir Wrecsam y maent i’w gweld yn y DU, cyhyd ag y gwyddom ni.
Er hynny, rydw i’n mynd i lawr afon Hafren ger y Trallwng i gael cipolwg, rhag ofn. Croesi bysedd!
A’r peth gorau yw ei bod yn haws i’w gweld ar bontydd a physt ffensys yn yr heulwen!

Dydd Gwener, 25 Ebrill 2025: Roedd y daith i afon Hafren gyda fy ffrind Clare Boyes, sy’n arbenigo ar wenyn Andrena, yn bleser pur, er ei bod bron iawn yn siwrnai ofer o ran dod o hyd i bryfed y cerrig.
Roeddwn i eisiau edrych ar bontydd am exuvia, a gafodd eu diosg wrth i’r nymffau drawsnewid yn oedolion. Gan obeithio y gellid fod wedi colli poblogaeth Isogenus nubecula, roedden ni’n crwydro glannau’r afon yn ceisio darganfod pa bontydd oedd yn hygyrch i’r de o’r Trallwng.
Roedden ni’n gwybod yr ateb i ryw raddau, ond mae’n well gwneud yn siŵr drosoch eich hun. Roedd yr afon yn Aberriw yn brydferth a chawsom amser hyfryd yn cerdded yn y dŵr yn edrych am bryfed cerrig ar y waliau.
Fe wnaethon ni ddod o hyd i un Brachyptera risi byw, Brachyptera putata, ac exuvia Perlodes.
Fodd bynnag, ar bontydd heblaw am bont a thraphont ddŵr Aberriw, mae planhigion goresgynnol – yr efwr enfawr, clymog Japan, a jac y neidiwr – wedi gafael go iawn ac mae’r efwr yn arbennig yn golygu ei bod hi’n anodd iawn cerdded ar y glannau.

Dydd Sul, 27 Ebrill 2025: Ddydd Gwener treuliais y bore ar Bont Dyfrdwy ym Mangor Is-coed yng nghwmni David Andrews, a ysgrifennodd bapur cynnar, a gyhoeddwyd ym 1984, ar ddod o hyd i bryf y cerrig Isogenus nubecula yn afon Dyfrdwy.
Roeddwn i wedi bod i lawr yn gynharach ac wedi casglu’r exuvia oedd yn weddill o’r bont; gwelais nad oedd nemor ddim wedi dod i’r amlwg dros yr wythnos flaenorol, felly mae’n rhaid eu bod nhw bron wedi gorffen dod i’r amlwg o’r afon nawr.
Fe ddaethon ni o hyd i wenyn mêl, buchod cwta amryliw, chwilod gwern, pryfed hofran (gan gynnwys un a oedd wedi dioddef ymosodiad ffwngaidd), pryfed tail melyn a gwybedyn Mai bach tlws, tywyll, melynresog, ond dim un pryf y cerrig dros deirawr.
Roedd hi ychydig yn rhy wyntog efallai? Ond rydw i’n hoffi meddwl ein bod ni wedi mireinio ein techneg o ran chwilio (!) Rydyn ni’n siŵr eu bod nhw yno. Mae gennym ni’r crwyn coll y gwnaethon nhw ddiosg…. ond ble maen nhw?
Rydyn ni wedi siarad â llawer o bobl oedd allan am dro neu’n cael peint yn y dafarn ar lan yr afon – digon o bobl â thaflenni aiff o bosib allan i chwilio, sy’n ganlyniad.
Treulion ni fore hynod ddiddorol gyda’n gilydd ac fe wnes i fwynhau straeon am bopeth sy’n gysylltiedig ag afonydd o yrfa David yn edrych ar afonydd; yn cynnwys yr achosion o lygredd yn afon Dyfrdwy dros y blynyddoedd. O ffenol a achosodd i’r dŵr tap arogli fel ’diheintydd TCP’, i ollyngiad o faidd a laddodd gannoedd o bysgod drwy achosi blodau bacterol a ddefnyddiodd yr holl ocsigen yn yr afon. Roedd mor anodd ei adnabod oherwydd nid tocsin ydoedd, fel y cyfryw, ond maetholyn.
Cymaint o straeon. Yn hollol ddiddorol ac yn arbennig o werthfawr i mi, am fy mod i ond wedi dechrau ymwneud o ddifrif â phryfed cerrig ac afon Dyfrdwy yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dydd Llun, 28 Ebrill 2025: Hwrê!!! Am y tro cyntaf eleni, rydym wedi dod o hyd i’n Isogenus nubecula sy’n oedolyn! Roedd Alan o acwariwm Sw Caer a minnau’n hela ar hyd y lan. Roeddwn i wedi dod o hyd i bryf y cerrig Perlodes (sydd ychydig yn fwy ac yn fwy cyffredin), pan hedfanodd un Isogenus nubecula drosodd a glanio ar fy nghoes!
O’r fan honno, fe ddaethon ni o hyd i lawer mewn ardal fach a’u gwylio nhw’n glanio ar weiriau, weithiau’n hedfan ychydig i ffwrdd. Buon ni’n gwylio ac yn dyfalu pam y gallen nhw fod yn gwneud yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud, ac fe gadwodd hynny ni’n brysur am amser hir.
Fe wnaethon ni hefyd ddal wyth i recordio’r ‘drymio’ maen nhw’n ei wneud i alw ar ei gilydd.
Roedd hynny’n dipyn o antur ynddo’i hun. Llwyddais i roi dau mewn tiwb gyda’i gilydd oedd o wahanol rywiau – nid dyna oedd y cynllun rhag ofn y byddai’r paru dilynol yn golygu na fydden nhw mewn hwyliau drymio!

Ar ôl eu dal, roedd gen i dipyn o broblem. Doeddwn i ddim wedi gallu goddef y syniad o archebu bocsys cardfwrdd gwag ar-lein am swm afresymol yr un, felly doedd gen i ddim byd yn barod fel stiwdio recordio.
Ar y ffordd adref, stopiais yn siop Stan’s i edrych, gan feddwl efallai am brynu bocsys matsis mawr. Yn ffodus, wrth i mi gerdded i mewn, roedd pentwr o becynnau grawnfwyd bach ar gael. Maint perffaith ac yn ddigon glân i fwyta bwyd ohonynt felly’n ddiogel i bryfed y cerrig fyw ynddynt am noson neu ddwy cyn mynd yn ôl i’r afon!!
Gyda’r recordydd yn ei le a phryfed y cerrig yn drymio (ddim mor gyffrous ag y mae’n swnio – ychydig o dapiau tawel – hyd at chwech – bob hyn a hyn), roedd gen i’r recordiad roeddwn i ei eisiau.
Mae gen i wyth pecyn bach o rawnfwyd ar ôl a stiwdio sain ar gyfer pryfed y cerrig – dwi ar fy ennill!
Ymunwch â ni ar gyfer Rhan dau o ddyddiadur bach Sarah Dydd Mercher 9 Gorffennaf.
Beth allwch chi ei wneud i helpu…?
Os yw dyddiadur bach Sarah wedi ennyn eich diddordeb ac yr hoffech gymryd rhan yn ein prosiect Isogenus nubecula, cysylltwch â ni. Rydym yn arbennig o awyddus i gael cymorth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, pan fyddwn yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu i leoli ac adrodd am unrhyw bryfed cerrig sy’n cael eu gweld ar hyd afonydd yng Nghymru ac i dynnu lluniau ohonynt. Ond mae’n debygol bod gweld y pryfed y tu allan i’r amseroedd hyn o ddiddordeb hefyd, yn enwedig o ystyried profiad Sarah gyda myfyrwyr Prifysgol Wrecsam eleni.
Os ydych chi’n byw y tu allan i ardal y prosiect ond yn meddwl eich bod chi wedi dod o hyd i Isogenus nubecula, cofnodwch hynny trwy ddefnyddio ein ffurflen we Chwiliwch am Isogenus nubecula hefyd.
Credyd Prif Ddelwedd: Scarce Yellow Sally (Isogenus nubecula) © Sarah Hawkes