Cynnal arolygon Miltroed Anghenfil y Maerdy

Wednesday 10th December 2025

… blog gan Gynorthwyydd Cadwraeth Buglife Cymru, Ashleigh Davies.

Rwy’n gweithio ar y prosiect Cysylltiadau Sborion Glo, sy’n anelu i ddeall yn well werth safleoedd sborion glo ar gyfer bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ar bwysigrwydd y safleoedd hyn a’r buddiannau y gallant eu cynnig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Un rhan o’r gwaith yr ydym yn ei wneud yw cynnal arolygon ar safleoedd sborion glo i chwilio am yr infertebratau prin a rhyfeddol sy’n eu galw’n gartref. Yn ystod y gaeaf y llynedd, roeddem allan gyda’r arbenigwr lleol Christian Owen i fapio dosbarthiad Miltroed Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae) yng Nglofa Maerdy.

Canfuwyd Anghenfil y Maerdy am y tro cyntaf yng Nglofa Maerdy yn ne Cymru gan Christian ym mis Rhagfyr 2016. Mae’n filtroed cymharol fychan, tua 12mm o hyd, a enwyd ar ôl y locomotif ‘Maerdy Monster’ a ddefnyddiwyd yng Nglofa Maerdy pan oedd yn lolfa weithredol.

Mae Anghenfil y Maerdy yn rhywogaeth newydd i wyddoniaeth ac, o ganlyniad, wyddom ni fawr ddim amdani. Felly, mae arolygon yn bwysig, gan eu bod yn caniatáu i ni ddeall yn well pam eu bod yn byw yn yr ardal hon ac, yn achos Anghenfil y Maerdy, pam eu bod i’w gweld yn dibynnu ar safle sborion glo.

Glofa Tip © Liam Olds

Mae gan safle Glofa Maerdy ystod eang o fathau o gynefinoedd gyda gwahanol fathau o briddoedd, llystyfiant, newidiadau mewn tymheredd a dringfeydd a grëwyd gan ddulliau cloddio am lo. Roeddem yn awyddus i weld os oedd yn well gan Anghenfil y Maerdy amodau penodol fel y gallwn ddeall yn well yr amgylchedd y mae ei angen i oroesi. Trwy gydol yr arolwg, y mannau mwyaf cyffredin i gael hyd i Anghenfil y Maerdy oedd o dan greigiau llaith a gweddillion pren.

Dros gyfnod yr arolwg o 2024 – 2025, cawsom hyd i 29 miltroed Anghenfil y Maerdy, yn cynnwys 16 gwryw, 11 benyw a 2 anaeddfed. Mae ail-gynnal arolygon yn ein helpu i ddeall ble mae Anghenfil y Maerdy ar y safle, ac os yw eu niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn neu os gellir cael hyd iddynt mewn ardaloedd newydd, gwahanol. Gan amlaf, nid oes digon o arolygon infertebratau’n cael eu cynnal ar sborion glo, ac mae’r arolygon hefyd yn ein helpu i ychwanegu mwy o gofnodion am rywogaethau eraill y byddwn yn eu darganfod. Yn ogystal, gellir defnyddio’r data a gesglir i hysbysu llunio penderfyniadau’n lleol am ddefnydd a rheolaeth safleoedd sborion glo i’r dyfodol.

Darganfyddiadau diddorol eraill ar Lofa Maerdy

Rydym wedi cofnodi nifer fawr o rywogaethau diddorol ar Lofa Maerdy, yn cynnwys y medelwr Sabacon viscayanum, y filtroed Maurieseuma nontronense a Gwlithen Dywyll y Pyreneau (Arion cf. iratii). Mae’r Sabacon viscayanum yn arachnid dirgel y gwyddom fawr ddim amdano. Bydd y rhywogaeth Sabacon yn dodwy’r wyau clir, hardd hyn ychydig droeon y flwyddyn a gwyddom y gallant stopio dodwy wyau os byddant yn teimlo dan fygythiad. Yn ogystal, mae’r gwrywod wedi eu harsylwi’n gwarchod yr wyau rhag ysglyfaethwyr a gwrywod eraill pan fo’r fenyw wedi hen symud ymlaen i ardal arall. Mae rhai’n damcaniaethu ei bod yn rhywogaeth ddyfod, gan mai ei phrif ardal yw’r Pyreneau mae’n debyg. Fe wnaethom hefyd gofnodi’r pryf milwrol bychan Oxycera pygmaea sy’n dibynnu ar y cynefin unigryw greëir gan ffynhonnau twffa – math o ffynnon dŵr croyw sy’n ffurfio dyddodion calsiwm carbonad trwy adweithiau cemegol gyda’r aer. Y tu hwnt i’r infertebratau, cafwyd hyd hefyd i fwsoglau prin fel Cnwpfwsogl Corn Carw (Lycopodium clavatum). Mae’n rhywogaeth a warchodir oherwydd ei phrinder trwy’r DU ac mae mewn perygl o golli cynefin o ganlyniad i danau a gordyfiant llystyfiant arall.


Fel Cynorthwyydd Cadwraeth, mae hyfforddiant ymarferol ar gynnal arolygon wedi chwarae rhan fawr wrth sbarduno fy niddordeb newydd mewn infertebratau a rhywogaethau eraill. Mae dysgu mwy am y rhywogaethau sydd ond i’w canfod o fewn ffiniau tomenni sborion glo yn profi i mi pa mor arbennig yw’r safleoedd hyn. Mae’n ddiddorol pa mor wahanol y byddaf yn arolygu ardal ers dysgu oddi wrth entomolegwyr eraill, trwy edrych o dan gerrig a boncyffion wedi cwympo i chwilio am rywogaethau o infertebratau, ffyngau, cennau a bryoffytau. Mae mynd trwy restrau adnabod ac edrych trwy ficrosgop maes i ganfod y manylion bychain i ddynodi beth yw’r rhywogaeth, neu os yw creadur yn wryw neu’n fenyw, wedi bod yn gyffrous i’w ddysgu. Mae pob profiad wedi rhoi hwb i fy hyder ac wedi ehangu fy ngwybodaeth am rywogaethau a geir ar sborion glo, ac yn rhywbeth y byddaf yn ddiolchgar amdano am byth i dîm Cysylltiadau Sborion Glo a’r bobl anhygoel yr wyf wedi eu cyfarfod trwy ddigwyddiadau a gweithdai trwy gydol y flwyddyn.

Tîm Cysylltiadau Sborion Glo ar arolwg Anghenfil y Maerdy © Liam Olds

Credyd Prif Ddelwedd: Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae) © Liam Olds