Join the Hunt for Amazing Oil Beetles in Wales

Thursday 6th April 2017

Members of the public are being asked to help with the first ever Wales-wide survey to map the location of our threatened and beautiful oil beetles.  The survey is being launched today by Buglife Cymru, and is supported by the Welsh Government.

 

Three species of oil beetle are found in Wales – Black oil beetle (Meloe proscarabaeus), Violet oil beetle (Meloe violaceus) and Rugged oil beetle (Meloe rugosus). This is the perfect time of year to spot Black and Violet oil beetles as they are active during the daytime, between March and June. Their large, glossy, black bodies tinted blue or purple, long fat abdomens and stunted wing-cases make them almost unmistakable as they amble along on the ground.

 

Buglife are asking people to keep a look out for oil beetles this spring when they are out and about this Spring.  Visit the Buglife website www.buglife.org.uk for a free identification guide, more information about these brilliant beetles and to report sightings and photographs.

 

Clare Dinham, Buglife’s Wales Officer, said “Oil beetles are fascinating, enigmatic beasts that once encountered are never forgotten. Now is the perfect time to spot them, particularly along path edges in grassland and woodlands. Look out for spring flowers and solitary bees which oil beetles depend upon to complete their life cycle.”

 

“Greater understanding of oil beetle distribution in Wales is needed if we are to target conservation efforts to protect important populations of the beetles, and the bees and wildflowers they rely upon. Check footpaths when you are walking through fields, coastal areas, woodland and heathland where they can be found looking for mates, digging nesting sites, and feeding on path-side flowers. Please help us boost oil beetle records in Wales by taking part in our Wales oil beetle survey.”

 

Rebecca Evans AM and Black oil beetle Species Champion said “As Species Champion for Black oil beetles I am proud to be supporting the Wales oil beetle hunt. Should you encounter these fascinating beetles whilst out enjoying the Welsh countryside please get involved by sending in your records. Help Buglife Cymru to understand more about oil beetles in Wales to help conserve them now, and for future generations.”

 

Buglife’s long-standing English oil beetle hunt has been really successful, and has rediscovered two species of oil beetle previously thought to be extinct – the Short necked oil beetle (Meloe brevicollis) and Mediterranean oil beetle (Meloe mediterraneus). It is possible that these species are here in Wales, and with your help we might find them.

 

All oil beetles have an unusual appearance and a strange life history. Adult beetles are flightless, large and slow moving, the bodies (especially of females) are swollen and the wing cases are short and rudimentary. Oil beetles get their name from the toxic oily secretions that they produce as a defence against predators when threatened.

 

The adult oil beetles will lay up to 1000 eggs in a burrow in soft or sandy soil which hatch a month or so later. The young larvae are unusual in being very active and long-legged and are known as triungulins after their three claws.

 

Once they have hatched the young larvae crawl up on to vegetation, often lying in wait in flowers, where they hitch a ride on mining bees and are involuntarily taken back to the bee’s nest. The triungulin then changes into a more maggot like larvae and devours the bee’s egg and also the protein rich pollen stores that the bee intended to provide for its own larvae.   Adults will emerge in the following spring, completing the life-cycle.

 

A series of oil beetle related resources and activities can be downloaded for free from /wales-oil-beetle-survey

 

Ymunwch â’r Helfa am Chwilod Olew Anhygoel yng Nghymru

Mae’r cyhoedd yn cael eu gofyn i helpu gyda’r arolwg Cymru-gyfan cyntaf erioed i fapio lleoliad ein chwilod olew hynod, sydd dan fygythiad.  Mae’r arolwg yn cael ei lansio heddiw gan Buglife Cymru, a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Ceir tair rhywogaeth o chwilod olew yma yng Nghymru – y chwilen olew Ddu (Meloe proscarabaeus), y chwilen olew Borffor (Meloe violaceus) a’r chwilen olew Arw (Meloe rugosus).  Nawr yw’r amser delfrydol o’r flwyddyn i weld y chwilod olew Du neu Borffor gan eu bod yn weithgar yn ystod y dydd o fis Mawrth i fis Mehefin.  Mae eu cyrff mawr du sgleiniog, sydd ag arlliw glas neu borffor, eu habdomen hir tew a’u cloradenydd byrion yn golygu eu bod nhw’n hawdd iawn i’w hadnabod wrth iddynt ymlwybro ar hyd lawr.

Mae Buglife yn gofyn i bobl gadw llygad am chwilod olew tra’u bod allan yn y wlad y Gwanwyn yma. Ymwelwch â gwefan Buglife, www.buglife.org.uk, am ganllaw adnabod am ddim, mwy o wybodaeth am y chwilod anhygoel yma ac i adrodd am rai a welwch ac i lanlwytho lluniau.

Meddai Clare Dinham, Swyddog Buglife yng Nghymru, “Mae chwilod olew yn greaduriaid rhyfeddol, enigmatig y byddwch yn eu cofio am byth unwaith ichi gwrdd â nhw. Nawr yw’r adeg ddelfrydol i ddod o hyd iddynt, yn enwedig ar hyd ymylon llwybrau mewn glaswelltir a choedwigoedd. Cadwch lygad am flodau’r gwanwyn a gwenyn unig y mae’r chwilod olew yn dibynnu arnynt i gwblhau eu cylch bywyd.”

“Mae angen gwell dealltwriaeth o ddosbarthiad chwilod olew yng Nghymru os ydyn ni i dargedu ein hymdrechion cadwraethol i warchod poblogaethau pwysig o chwilod, a’r gwenyn a’r blodau gwyllt y maent yn dibynnu arnynt.  Cadwch lygad ar y llwybrau pan fyddwch yn cerdded trwy gaeau, ardaloedd arfordirol, coedydd a rhostir ble gellir eu gweld yn chwilio am gymar, yn tyllu mewn safleoedd nythu, ac yn bwydo ar flodau ar hyd ymylon llwybrau.  Helpwch ni i gynyddu’r nifer o gofnodion chwilod olew yma yng Nghymru trwy gymryd rhan yn ein harolwg o chwilod olew cenedlaethol.”

Dywedodd Rebecca Evans AC, Hyrwyddwraig Rhywogaeth dros y chwilen olew Ddu, “Fel yr Hyrwyddwraig Rhywogaeth dros y chwilen olew Ddu, rwy’n falch o gefnogi’r helfa chwilod olew yng Nghymru.  Os dewch chi ar draws y chwilod rhyfeddol yma tra eich bod allan yn mwynhau cefn gwlad Cymru, cofiwch ymuno yn yr hwyl trwy anfon eich cofnodion i mewn.  Helpwch Buglife Cymru i ddeall mwy am chwilod olew yng Nghymru er mwyn ein helpu i’w gwarchod yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae helfa chwilod olew hirsefydlog Buglife yn Lloegr wedi bod yn llwyddiant mawr, ac mae wedi ail-ddarganfod dwy rywogaeth o chwilen olew y credwyd oedd yn ddiflanedig – y chwilen olew Gwddf Byr (Meloe brevicollis) a’r chwilen olew Ganoldirol (Meloe mediterraneus).  Mae’n bosibl bod y rhywogaethau hyn i’w cael yng Nghymru hefyd a, gyda’ch cymorth chi, efallai y cawn hyd iddynt.

Mae pob chwilen olew yn edrych yn anarferol ac mae ganddynt gylch bywyd rhyfedd iawn.  Dyw’r chwilen aeddfed ddim yn gallu hedfan, mae’n fawr ac yn symud yn araf, mae ei chorff (yn enwedig y benywod) yn chwyddedig ac mae’r cloradenydd yn fyr a syml iawn.  Daw enw’r chwilen olew o’r hylif oeliog gwenwynig y mae’n ei gynhyrchu fel amddiffynfa yn erbyn ysglyfaethwyr fydd yn ei bygwth.

Bydd y chwilen olew aeddfed yn dodwy hyd at 1000 o wyau mewn twll mewn pridd medal neu dywodlyd fydd yn deor mewn tua mis. Mae’r larfâu ifanc yn anarferol gan eu bod yn hynod o fywiog gyda choesau hirion, ac fe’u hadnabyddir fel triwngwlin ar ôl eu tri ewin.

Unwaith iddynt ddeor bydd y larfau ifanc yn dringo i fyny i’r llystyfiant, gan orwedd yn y blodau ble byddant yn dwyn pas ar wenyn turio fydd yn eu cario’n ddiarwybod yn ôl i nyth y gwenyn.  Yna, bydd y triwngwlin yn troi’n larfa tebycach i gynrhon gan fwyta wyau’r gwenyn yn ogystal â’r storfa o baill llawn protein yr oedd y gwenyn wedi ei fwriadu ar gyfer ei larfa ei hun.  Bydd y chwilen aeddfed yn dod o’r nyth y gwanwyn canlynol, gan gwblhau ei gylch bywyd.

Gellir lawrlwytho cyfres o adnoddau a gweithgareddau rhad ac am ddim sy’n ymwneud â chwilod olew oddi ar: /oil-beetle-survey-cymru