Cystadleuaeth ffotograffiaeth Infertebratau Anhygoel Cymru

Friday 6th July 2018

Yn galw ar bob ffotograffydd bywyd gwyllt ifanc! Dyma gyfle'r haf yma iti gymryd rhan yng nghystadleuaeth Buglife Cymru ble gelli ennill gwobrau anhygoel yn cynnwys cyfres o lyfrau ‘Beetle Boy’, copi wedi ei lofnodi o lyfr newydd M.G. Leonard: ‘The Beetle Collector’s Handbook’, gwesty pryfetach ar gyfer dy ysgol, aelodaeth blwyddyn am ddim o Buglife a llawer mwy!
 
Mae infertebratau’n cynnwys popeth o falwod a phryfed cop, chwilod a gwenyn i fwydod a phryfed lludw, gwyfynod a nadroedd miltroed. Cei hyd iddyn nhw mewn llawer o wahanol fannau, yn cynnwys yr ardd gefn, ar dir yr ysgol ac yn y parc lleol.
 
Sut i gystadlu: E-bostia dy luniau digidol at [email protected], gyda dy enw, oed, tref ac ysgol. Galli anfon nifer o luniau atom, ond dylai pob e-bost fod yn llai na 6MB o faint.
 
Dyddiad cau: Dydd Gwener 14eg Medi 2018 a chyhoeddir enw’r pedwar enillydd ar 5ed Hydref.
 
Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant rhwng 7 – 11 oed, a dylent ofyn am ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn cystadlu.
 
Caiff yr enillwyr eu dethol gan Buglife ac MG Leonard, awdur ‘ Beetle Boy’. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwesty gwenyn ar gyfer eu hysgol, copi wedi ei fframio o’u llun ac aelodaeth blwyddyn am ddim o Buglife. Yn ogystal, bydd enillydd y wobr 1af yn derbyn trioleg o lyfrau ‘Beetle Boy’ a chopi o’r teitl newydd ‘The Beetle Collector’s Handbook’.
 
Cysylltwch â Clare Dinham os oes gennych unrhyw ymholiadau, trwy e-bost at [email protected] neu dros y ffôn ar 02922 405604
 
Mae Buglife yn cadw’r hawl i ddefnyddio unrhyw luniau a anfonir i’r gystadleuaeth mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau anfasnachol. Mae’r enillwyr yn cytuno i’w ffotograff, enw ac enw eu hysgol gael eu defnyddio mewn unrhyw gyhoeddusrwydd.